Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | Gubbio |
Poblogaeth | 30,479 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Ubaldo Baldassini |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Perugia |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 525.78 km² |
Uwch y môr | 522 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Cagli, Costacciaro, Gualdo Tadino, Pietralunga, Sigillo, Valfabbrica, Cantiano, Perugia, Scheggia e Pascelupo, Umbertide, Fossato di Vico |
Cyfesurynnau | 43.3518°N 12.5773°E |
Cod post | 06024, 06020 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Gubbio |
Tref hynafol a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal yw Gubbio. Fe'i lleolir yn nhalaith Perugia yn rhanbarth Umbria. Saif ar lethr isaf Mynydd Ingino, mynydd bach yn yr Apenninau.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 32,432.[1]
Mae gwreiddiau'r dref yn hynafol iawn. Roedd yn anheddiad bwysig i lwyth yr Wmbri, o dan yr enw Ikuvium yn y cyfnod cyn-Rufeinig. Yn 1444 darganfuwyd yno tabledi efydd, y Tabledi Igufaidd, sy'n cynnwys y testun mwyaf sydd wedi goroesi yn yr iaith Wmbreg.
Ar ôl y goncwest Rufeinig yn yr 2g CC parhaodd y dref yn bwysig, fel y tystiwyd gan ei theatr Rufeinig, yr ail-fwyaf yn y byd i oroesi. Ei henw Lladin oedd Iguvium.
Daeth Gubbio yn bwerus iawn ar ddechrau'r Oesoedd Canol. Anfonodd y dref 1,000 o farchogion i ymladd yn y Groesgad Gyntaf (1096–9). Roedd y canrifoedd dilynol yn gythryblus, ac roedd Gubbio yn rhyfela yn aml yn erbyn trefi cyfagos. Yn un o'r rhyfeloedd hyn ei esgob, Ubaldo Baldassini (c.1084–1160) a arweiniodd fyddin y dref (trwy wyrth yr honnwyd) i fuddugoliaeth ysgubol (1151) a chyfnod o ffyniant i'r dref. Ef bellach yw nawddsant y dref, a bob blwyddyn y mae gwyl fawr (Corsa dei Ceri) ar noswyl ei ddygwyl ar 16 Mai.
Yn y pen draw ymgorfforwyd Gubbio i diriogaethau teulu Montefeltro, dugiaid Urbino. O 1631 hyd 1860 roedd yn rhan o Daleithiau'r Babaeth.
Mae'r dref yn adnabyddus am chwedl Sant Ffransis o Assisi yn dofi blaidd rheibus a chodai arswyd ar y dref, ond a ddaeth wedyn yn breswylydd hydrin y lle.