Enghraifft o: | llofruddiaeth dorfol ![]() |
---|---|
Dechreuwyd | 3 Ionawr 1983 ![]() |
Daeth i ben | 22 Rhagfyr 1987 ![]() |
Ymgyrch o ormes yn erbyn y Ndebele yn Simbabwe oedd y Gukurahundi a oedd yn cynnwys lladdfeydd ar raddfa eang, cyrchoedd milwrol, artaith, a chamdriniaethau hawliau dynol eraill. Cyflawnwyd y cyflafanau a'r terfysgoedd gan Fyddin Genedlaethol Simbabwe yn y cyfnod 1983–87. Bu farw miloedd ar filoedd o bobl, yn debyg 20,000 o leiaf, a gelwir y Gukurahundi yn enghraifft o hil-laddiad gan Gymdeithas Ryngwladol Ysgolheigion Hil-laddiad.[1] Ystyr yr enw Shona yw "y glaw cynnar sydd yn golchi'r us ymaith cyn glawogydd y gwanwyn".[2]
Sefydlwyd y Bumed Frigâd gan Robert Mugabe, Prif Weinidog Simbabwe, yn 1981. Cawsant eu hyfforddi yn ardal Nyanga yn y cyfnod o Awst 1981 i Fehefin 1982, gyda chymorth o luoedd arfog Gogledd Corea. Ymfyddinwyd y Bumed Frigâd yn Ionawr 1983 i ostegu gwrthryfel yng Ngogledd Matabeleland.[3] Mae'n debyg i Mugabe gynllunio'r lladdfeydd er mwyn difa gwrthsafiad gwleidyddol yn ei erbyn, oherwydd roedd y mwyafrif o'r Ndebele yn cefnogi plaid ZAPU yn hytrach na llywodraeth ZANU a arweinid gan Mugabe.[4]