Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Perchnogaeth | Tata Steel |
Gwaith cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yw Gwaith Dur Port Talbot, sy'n eiddo i'r grŵp Corus. Mae'r gwaith yn gallu cynhyrchu bron i 5 miliwn tunnell o slab dur pob blwyddyn. Caiff y rhanfwyaf o'r slab ai rholio ar y safle ym Mhort Talbot ac ar safle Llanwern yng Nghasnewydd er mwyn creu amryw o gynnyrch stribed dur. Caiff gweddill y dur ei brosesu yng ngweithfeydd eraill Corus neu ei werthu ar ffurf slab. Mae'r gwaith yn gorchuddio ardal eang o dir sy'n domineiddio de'r dref, mae'r ffwrnais chwyth a'r gwaith cynhyrchu dur yn dirnodau sydd iw gweld o draffordd yr M4 a Prif Lein De Cymru wrth basio heibio'r dref.
Mae gwaith dur wedi bod ym Mhort Talbot ers 1901; adeiladwyd y gwaith gwreiddiol gan Gilbertson a lleolwyd i'r de o orsaf rheilffordd Port Talbot. Mae swyddfeydd gweinyddu'r gwaith dur gwreiddiol yn gartref i Lys Ynadon Port Talbot heddiw.
Dechreuodd y gwaith a leolir ym Margam ym 1953, adnabyddwyd yn wreiddiol ac ar lafar fel yr "Abbey Works", ond a elwir yn swyddogol yn "Corus Strip Products UK Port Talbot Works".[1] Cyfunodd sawl cwni cynhyrchu dur yn ne Cymru eu hadnoddau er mwyn ffurfio "The Steel Company of Wales" ac adeiladu gwaith dur modern cyfannol ar safle a fu'n eiddo bryd hynnu i Guest, Keen and Baldwins. Ond, arweiniodd cad-drefnu gwleidyddol at gynhyrchiad tunplat gael ei gadw yn ei berfeddwlad gwreiddiol ymhellach i'r gorllewin, mewn dau waith newydd yn Nhrostre a Felindre. Yn ystod yr adeg pan fu lefel cyflogaeth ar ei uchaf yn yr 1960au, Abbey Works oedd gwaith dur mwyaf Ewrop a'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, gyda 18,000 o weithwyr.[2] Heddiw mae'r gwaith yn cynhyrchu coiliau dur wedi eu anelio gan rholio poeth ac oer, ar gyfer amryw o ddefnyddiau gan gynnwys ar gyfer y diwydiant ceir ac offer cartref.
Ym 1967, daeth The Steel Company of Wales yn rhan o'r British Steel Corporation, a gafodd ei breifateiddio yn ddiweddarach i ffurfio grŵp Corus. Mae'r Abbey Works yn eiddo i gwmni Indiaidd Tata Steel a caiff ei redeg gan Corus. Mae Tata Steel yn rhan o gwmni busnes hynaf a mwyaf India. Cytunodd Tata Group i brynu holl gyfranddaliadau cyffredinol Corusym Mawrth 2007 a gweithredwyd y gytundeb ym mis Ebrill 2007.
Mae'r rhaglen deledu Top Gear wedi defnyddio Gwaith Dur Port Talbot sawl gwaith ar gyfer ffilmio. Mae'r cyfarwyddwr Terry Gilliam wedi dweud y bu Gwaith Dur Port Talbot Steelworks un un o'r prif ddylanwadau cynnar arno wrth ddatblygu'r ffilm Brazil.