Yn ei ffurf symlaf, sach o ddefnydd sy'n cael ei gario ar y cefn ac yn cael ei ddal yn ei le gan ddau strap sy'n mynd dros yr ysgwyddau yw gwarbac—hefyd yn cael ei alw'n sach cefn, gwarfag, sach teithio, neu gwdyn teithio.
Mae'r defnydd o warbaciau yn aml yn gyffredin ymhlith heicwyr a myfyrwyr, ac yn cael eu ffafrio dros fagiau llaw fel dull o gario llwythau trwm neu unrhyw fath o offer, oherwydd yr anhawster o gludo pwysau trwm am gyfnodau hir gyda'r dwylo.
Mae gwarbaciau mawr yn aml yn cyfeirio'r rhan fwyaf o'r pwysau at feltiau sy'n cael eu rhoi o amgylch y canol, ac yn defnyddio'r strapiau ysgwydd i gadw'r pac yn sefydlog. Mae hyn yn gwella gallu i gludo pwysau mawr, gan fod y cluniau yn gryfach na'r ysgwyddau, ac yn cynyddu ystwythder a chydbwysedd yr unigolyn am fod y llwyth yn agosach at ei ganolbwynt mas.
Mae maint gwarbaciau teithio yn aml yn cael ei fesur mewn litrau.