Math | dyffryn, Gwarchodfa Natur Genedlaethol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cannich |
Sir | Cyngor yr Ucheldir |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.263844°N 4.985518°W |
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gleann Afraig (Saesneg: Glen Affric) yn un o Gwarchodfeydd cenedlaethol yr Alban. Mae’n cynnwys dyffryn Abhainn Afraig, yn ogystal â dyffrynnoedd gerllaw. Mae’r Afraig yn llifo trwy Loch Beinn a’ Meadhoin ac yn disgyn dros Eas a' Choin (Saesneg: Dog Falls) cyn ymuno ag Abhainn Deabhag i ffurfio Abhainn Ghlais. Mae’r ardal i gyd yn fynyddog a choediog.[1]
Mae’r warchodfa hefyd yn cynnwys Eas Ploda (Saesneg: Plodda Falls), sydd yn 5 cilomedr i’r de-ddwyrain o bentref Tomich. Mae Eos Ploda’n 46 medr o uchder, yn rhan o Allt na Bodachan, sydd yn llifo i’r Abhainn Deabhag[2]. Mae Eos Ploda yn atyniad i dwristiaid ac adeiladwyd gwylfa uwchben Eos Ploda yn 2009.
Roedd Eos Ploda’n rhan o stad Guisachan, eiddo i’r Arglwydd Tweedmouth. Plannwyd ffynidwydd Douglas ar y stad rhwng 1895-1900 a defnyddiwyd y coed fel hwylbrenni ar long Robert Falcon Scott, y Discovery ar gyfer ei thaith i’r Antarctig.[3]