Gwasanaeth Sifil Ei Fawrhydi

Gwasanaeth Sifil Ei Fawrhydi
Enghraifft o'r canlynolgwasanaeth sifil Edit this on Wikidata
Rhan oLlywodraeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Prif weithredwrSimon Case Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.civilservice.gov.uk Edit this on Wikidata

Biwrocratiaeth barhaol o weithiwr cyflogedig y Goron Brydeinig yw Gwasanaeth Sifil Ei Fawrhydi, neu'r Gwasanaeth Sifil Cartref, sy'n cynorthwyo gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau datganoledig Cymru a'r Alban. Mae'r gweinidogion yn atebol i'r sofran a Senedd y Deyrnas Unedig, ynghyd â Senedd yr Alban a Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan fo hynny'n berthnasol, wrth weinyddu gwledydd Prydain (Yr Alban, Cymru a Lloegr) yn ganolog, ond mae eu penderfyniadau yn cael eu gweithredu gan y gweision sifil, sydd yn cael eu cyflogi gan y Goron ac nid gan y Senedd. Mae gan weision sifil gyfrifoldebau statudol a thraddodiadol sydd, i rhyw raddau, yn eu amddiffyn rhag cael eu defnyddio gan y blaid sy'n llywodraethu er mwyn cael mantais wleidyddol. Ond, gall weision sifil uwch fod yn atebol i'r Senedd.

Sylwer fod gan dalaith Gogledd Iwerddon drefn ar wahân a cheir gwahaniaethau hefyd yn y modd mae'r Gwasanaeth Sifil yn gweithredu yn yr Alban.

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.