Ymarfer ar gyfer rhan uchaf y corff yw gwasg fainc. Wrth gorfflunio defnyddir yr ymarfer hwn er mwyn cryfhau'r cyhyrau'r pectoral, y deltoidau a'r cyhyryn triphen. Er mwyn gwneud gwasg fainc, mae rhywun yn gorwedd ar ei gefn ac yn gostwng pwysau i lefel ei frest, ac yna'n eu gwthio yn ôl i fyny nes bod y breichiau yn syth ond heb gloi'r penelinoedd. Mae'r ymarfer yn canolbwyntio ar ddatblygu'r prif gyhyr pectoralis yn ogystal â chyhyrau eraill gan gynnwys y deltoid blaen, seratws blaen, coracobrachialis, ysgwydd, y trapesiws a'r cyhyryn triphen. Mae'r wasg fainc yn un o dri chodiad gwahanol o fyd codi pŵer ac fe'i defnyddir tra'n hyfforddi gyda phwysau, corfflunio a mathau eraill o hyfforddiant ffitrwydd er mwyn datblygu'r frest.