Gwe-rwydo (Saesneg: Phishing) yw'r ymgais dwyllodrus i gael gwybodaeth sensitif fel enw defnyddiwr, cyfrinair a manylion cerdyn credyd (ac arian), yn aml am resymau maleisus, trwy ymddwyn fel endid ddibynadwy mewn cyfathrebiad electronig.[1][2] Gallai effaith flynyddol gwe-rwydo yn fyd-eang fod cymaint â US$5 biliwn.[3]Nodyn:Better source
Mae gwe-rwydo fel arfer yn cael ei gyflawni trwy negeseuon ebost ffug[4] neu negesau ennyd,[5] ac mae'n aml yn dweud wrth ddefnyddwyr fewnbynnu eu gwybodaeth ar wefan ffug sy'n edrych fel gwefan ddilys, gyda'r unig wahaniaeth i'w weld yn y cyfeiriad.[6] Mae negesuon sy'n honni eu bod o wefannau cymdeithasol, gwefannau arwerthu, banciau, proseswyr taliadau ar-lein neu weinyddwyr TGCh yn aml yn cael eu defnyddio i geisio baetio defnyddwyr.[7]
Mae gwe-rwydo yn enghraifft o dechneg cynllwynio cymdeithasol sy'n cael ei ddefnyddio i dwyllo defnyddwyr, a manteisio ar wendidau yn niogeledd y we.[8] Mae'r ymdrechion i ddelio a'r nifer gynyddol o achosion o we-rwydo yn cynnwys deddfwriaeth, hyfforddi defnyddwyr, ymwybyddiaeth y cyhoedd, a mesurau technegol i sicrhau diogeledd.
↑Van der Merwe, A J, Loock, M, Dabrowski, M. (2005), Characteristics and Responsibilities involved in a Phishing Attack, Winter International Symposium on Information and Communication Technologies, Cape Town, January 2005.