Yn yr enwadau Cristionogol mae Gweinidog yr Efengyl [1] yn berson sydd wedi'i awdurdodi gan eglwys neu sefydliadau crefyddol eraill i gyflawni swyddogaethau megis dysgu credoau; arwain gwasanaethau nodedig fel gwasanaethau cymun, priodas, bedydd ac angladd; neu fel arall ddarparu arweiniad ysbrydol i'r gymuned.[2]
Gall yr ymadrodd Gweinidog yr Efengyl cael ei ddefnyddio yn ei ystyr cyffredinol i gyfeirio at arweinydd unrhyw eglwys. Yng Nghymru tueddir defnyddio swydd deitlau penodol ar gyfer gweinidogion yr eglwysi esgobaethol, er enghraifft offeiriad, ficer, rheithor, esgob, tad, pab ac ati gan ddefnyddio'r term gweinidog i gyfeirio at arweinwyr yr enwadau anghydffurfiol.
Yn dibynnu ar yr enwad mae'r gofynion ar gyfer cael mynediad i'r weinidogaeth yn amrywio. Mae pob enwad yn mynnu bod gan y gweinidog ymdeimlad o alwedigaeth (hynny yw, bod Duw wedi ei alw ef neu hi i ymgymryd â gwaith y weinidogaeth).[3] O ran hyfforddiant, mae enwadau yn amrywio yn eu gofynion, o'r rhai sy'n pwysleisio rhoddion naturiol i'r rhai sydd hefyd angen cymwysterau addysg drydyddol uwch, er enghraifft, o athrofa, coleg diwinyddol neu brifysgol.[4]
Wedi cyflawni'r hyfforddiant angenrheidiol bydd unigolyn yn cael ei godi i'r weinidogaeth mewn gwasanaeth ordeinio arbennig.[5] Ordeiniad yw'r ddefod y mae eglwysi yn ei defnyddio i:
Yn y rhan fwyaf o enwadau mae gweinidog yn cael defnyddio'r teitl Y Parchedig (neu Y Parch.). Mewn eglwysi sydd â hierarchaeth o weinidogion defnyddir gwahanol raddau o'r term parch ar gyfer gwahanol lefelau o'r weinidogaeth. Er enghraifft yn yr Eglwys Anglicanaidd mae deon yn defnyddio'r teitl Y Mwyaf Parchedig, mae esgob yn Wir Barchedig a defnyddir Y Parchedicaf ar gyfer Archesgob. Pan fo gan weinidog mwy nag un teitl defnyddir y Parchedig gyntaf yn ei restr o deitlau: Y Parchedig Brifathro Robert Tudur Jones; Y Parchedig Ddr R. Alun Evans; Y Parchedig a Gwir Anrhydeddus Arglwydd Roberts o Landudno; Y Parchedig Archdderwydd Syr Cynan Evans Jones.