Gwenda Thomas | |
---|---|
Aelod o Cynulliad dros Castell-nedd | |
Mewn swydd 6 Mai 1999 – 6 Ebrill 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd |
Dilynwyd gan | Jeremy Miles |
Mwyafrif | 6,390 (26.8%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Castell-nedd | 22 Ionawr 1942
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Priod | Morgan J. Thomas (1939-2013) |
Plant | 1 mab |
Gwefan | Gwenda Thomas AM |
Gwenda Thomas (ganed yng Nghastell-nedd, 22 Ionawr 1942) oedd Aelod Cynulliad Llafur Castell-nedd a Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru[1]. Fe'i hetholwyd i'r Cynulliad am y tro cyntaf ym 1999. Mae'n siarad Cymraeg, ac fel Dirprwy Weinidog yn y Llywodraeth mae wedi bod yn frwd dros wella gwasanaethau iechyd a gofal i siaradwyr Cymraeg gan ddadlau dros eu hawl i gael gwasanaethau hanfodol o'r fath yn eu hiaith eu hunain[2][3].