Gwenlyn Parry | |
---|---|
Ganwyd | William Gwenlyn Parry 8 Mehefin 1932 Deiniolen |
Bu farw | 5 Tachwedd 1991 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr |
Dramodydd Cymraeg sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre Theatr yr Abswrd oedd Gwenlyn Parry (8 Mehefin 1932 - 5 Tachwedd 1991).[1]
Ganwyd William Gwenlyn Parry ym mhentref Deiniolen (neu Llanbabo), Gwynedd. Roedd ei dad, William John Parry, yn chwarelwr yn y chwarel lechi cyfagos yn Dinorwig; roedd ei fam Katie Parry (née Griffiths) yn gweithio am sawl blwyddyn fel nyrs yn Ysbyty Eryri yng Nghaernarfon. Roedd ganddo un chwaer, Margaret, oedd yn bum mlynedd yn iau.[1]
Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Normal, Bangor. Ar ôl cyfnod yn Llundain lle daeth i adnabod Rhydderch Jones a Ryan Davies a chyfnod fel athro ym Methesda, cafodd swydd fel sgiptiwr gyda BBC Cymru. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal Caerdydd ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent Pen-y-groes, Gwynedd.
Ysgrifennodd nifer o benodau i'r gyfres Pobol y Cwm a rhaglenni eraill ar y teledu yn cynnwys Fo a Fe a'r ffilm Grand Slam[2]. Fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys Saer Doliau (1966) ac Y Tŵr (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.
Cyfranodd i sgript y ddrama deledu Grand Slam a'r ffilm o Un Nos Ola Leuad (seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Caradog Prichard).
Roedd yn briod ddwywaith, yn gyntaf i Joy a roedd ganddynt ddau ferch, Sian Elin (ganwyd 1969) a Catrin Lynwen (ganwyd 1971). Yna fe briododd Ann Beynon a cafodd merch a mab o'i ail briodas.