![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 10,677, 10,778 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 787.65 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0766°N 3.0217°W ![]() |
Cod SYG | W04000896 ![]() |
Cod OS | SJ316537 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lesley Griffiths (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
![]() | |
Pentref o faint sylweddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Gwersyllt. Saif ychydig i'r gogledd o dref Wrecsam, ger y briffordd A541.
Mae gan Gwersyllt orsaf trên ar y lein Wrecsam - Bidston a thair swyddfa bost (Bradle, Gwersyllt a Brynhyfryd). Yng nghanol y pentref mae Ysgol Gyfun Bryn Alyn. Yn ôl y cyfrifiad 1991 roedd 721 siaradwyr Cymraeg yn y pentref (tri ward) sef rhyw 8% o'r boblogaeth. Mae'r ffigwr wedi codi i 1018 erbyn 2001 bron 11% o'r boblogaeth. Mae'r A541 yn hollti'r pentref ac mae ystâd diwydiannol sylweddol yn y pentref ynghyd ag archfarchnad a chanolfan siopa. Mae Gorsaf Radio "Marcher" yn y pentref a chanolfan chwaraeon Gwyn Evans ynghlwm wrth Ysgol Bryn Alyn. Ym mis Awst 2012 torrwyd y dywarchen gyntaf ar gyfer Ysgol Gymraeg Gwersyllt.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lesley Griffiths (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[1][2]
Roedd nifer o byllau glo yn yr ardal yma. Yn 1896 roedd gan bwll glo Gwersyllt 185 o weithwyr, 167 ohonynt dan y ddaear. Yn yr 20g adeiladwyd llawer o dai cyngor yma. Ers yr wythdegau adeiladwyd stadau preifat ar bob ochr a llenwi'r bylchau rhwng Gwersyllt, Bradle ac mae'r pentref yn cyrraedd Pendine erbyn heddiw.
Mae gan Eglwys Plwyf Gwersyllt, sef Eglwys y Drindod Sanctaidd, ffenestr liw o safon, a mynwent sylweddol. Crewyd Plwyf Gwersyllt yn Nhachwedd 1851, o rannau o Dreflan Gwersyllt (gynt ym mhlwyf Gresfordd) a Stansty (gynt ym mhlwyf Wrecsam). Gosodwyd y maen sylfaen ar 13 Gorffennaf 1850, a chysegrwyd Eglwys y Drindod ar 25 Gorffennaf 1851.
Ceir ar furiau'r eglwys nifer o wynebau ar ffurf cerfluniau:
Saif capel English Congregational ger yr orsaf.
Dymchwelwyd capel Annibynnol Brynhyfryd (Summerhill) yn y 70au.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre