Term gwleidyddol yw gwibddiplomyddiaeth[1] sydd yn disgrifio ymdrechion diplomydd o wlad neu sefydliad allanol sydd yn gweithredu fel canolwr rhwng y prif bleidiau mewn anghydfod, trwy "wenoli" rhyngddynt, heb i'r prif bleidiau cwrdd a'i gilydd yn uniongyrchol.
Defnyddiwyd y term Saesneg shuttle diplomacy yn gyntaf yn The New York Times yn Ionawr 1974 i ddisgrifio ymdrechion Henry Kissinger, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, yn sgil Rhyfel Yom Kippur.[2] Fe deithiodd Kissinger yn ôl ac ymlaen rhwng Israel, yr Aifft a Syria dros gyfnod o saith mis tra'n ceisio cael Israel i dynnu ei lluoedd milwrol yn ôl o diriogaethau'r ddwy wlad arall. Manteisiodd ar anwybodaeth y llywodraethau o amcanion a a gweithgareddau ei gilydd i lunio ac adolygu cynigion a chytundebau ar ben ei hunan, ac i ddewis pryd i gyflwyno gofynion a chyfaddawdau'r un ochr i'r ochr arall. Trwy hyn, fe gyflymodd y broses tuag at gytundeb terfynol.[3] Dychwelodd Kissinger i'r Dwyrain Canol ym Medi 1975 i sicrhau ail gytundeb rhwng Israel a'r Aifft.[4] Mae'n debyg taw hon oedd y tro cyntaf i ddiplomydd uwch o wlad mor bwerus i deithio ar frys a thro ar ôl tro wrth geisio ennill nod gyfyngedig.[5]
Defnyddir y term hefyd wrth edrych yn ôl ar ymdrechion Cyrus Vance, Dirprwy Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, i atal rhyfel rhwng Gwlad Groeg a Thwrci ym 1967.[6] Llwyddodd Vance i berswadio'r Groegiaid i dynnu'r mwyafrif o'u lluoedd allan o Gyprus.[7][8]