Gwiddonyn | |
---|---|
Gwiddonyn paun (Tuckerella sp.), Lliw ffug; llun drwy ficrosgop electron, 260× | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Is-ffylwm: | Chelicerata |
Dosbarth: | |
Is-ddosbarth: | Leach, 1817 |
Uwchurdd | |
Arachnidau bychain yw gwiddon neu euddon (unigol: gwiddonyn, euddonyn). Ynghyd â throgod, gwiddon sydd yn cyfansoddi'r tacson Acarina.
Mae priodoleddau ambr yn unigryw ar gyfer cadw olion a gweddau organebau byw (anifeiliaid, planhigion a microbau) am filiynau o flynyddoedd. Ym mis Awst 2012 cyhoeddwyd[1] darganfyddiad olion widdon 230 miliwn (Ma) oed. Ar y pryd y rhain oedd y ffosiliau ambr anifail hynaf.