Viburnum rhytidophyllum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Planhigyn blodeuol |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Dipsacales |
Teulu: | Adoxaceae |
Genws: | Viburnum |
Rhywogaeth: | V. rhytidophyllum |
Enw deuenwol | |
Viburnum rhytidophyllum |
Planhigyn blodeuol bytholwyrdd tua 4 metr o daldra yw Gwifwrnwydden grech sy'n enw benywaidd (hefyd: Gwifwrnwydden Grychog). Mae'n perthyn i'r teulu Adoxaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Viburnum rhytidophyllum a'r enw Saesneg yw Wrinkled viburnum. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn: Gwifwrnwydden Grychog.
Mae'r dail daneddog yn tyfu bob yn ail a cheir blodau bychan gyda phum petal. Tua 12 cm yw hyd y pob deilen, ac mae ganddyn nhw wythiennau tywyll a wyneb glaswyrdd tywyll. Ceir clystyrau o flodau gwyn, persawrus yn y gwanwyn. Glas yw eu haeron, sy'n ymddangos ym Mehefin ac yn aeddfedu hyd at Fedi, gan droi'n ddu.