Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 15,460 |
Pennaeth llywodraeth | Fabrice Jacob |
Gefeilldref/i | Barsbüttel |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 44.13 km² |
Uwch y môr | 0 metr, 131 metr |
Yn ffinio gyda | Plabenneg, Brest, Ar Forest-Landerne, Gouenoù, Kersent-Plabenneg, Ar Releg-Kerhuon, Sant-Divi |
Cyfesurynnau | 48.4336°N 4.4008°W |
Cod post | 29490 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Guipavas |
Pennaeth y Llywodraeth | Fabrice Jacob |
Mae Gwipavaz (Ffrangeg: Guipavas) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Plabennec, Brest, La Forest-Landerneau, Gouesnou, Kersaint-Plabennec, Le Relecq-Kerhuon, Saint-Divy ac mae ganddi boblogaeth o tua 15,460 (1 Ionawr 2021).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg. Daw'r enw o'r Llydaweg gwic (tref) a bevoez (coedwig mawr).
Mae Gwipavaz wedi'i gefeillio â:
Mae nifer o adeiladau crefyddol nodweddiadol yng nghymuned Gwipavaz
Adeiladwyd rhwng 1952 a 1955 gan y pensaer Michel Brest; mae’n nodweddiadol gan fod ei chlochdy yn annibynnol i gorff yr eglwys ac yn weladwy o bellteroedd. Mae porth yr eglwys, sydd wedi ei gadw o'r eglwys flaenorol, yn cynnwys cerfluniau o'r deuddeg apostol ac yn heneb gofrestredig[1]
Saif Capel Ein Morwyn ar y Bryn (Notre-Dame-du-Reun) 93 metr uwchben lefel y môr. Mae'r capel presennol yn dyddio o'r 19g ac wedi ei hadeiladu i gymryd lle eglwys gynharach a adeiladwyd gan Sant Thudon ei hun yn y 7c. Cafodd y capel ei hadfer ym 1805, a'i ddifrodi'n wael yn ystod yr ymladd i ryddha Brest ym mis Awst 1944; ail- adferwyd y capel ym 1952.[2]
Adeiladwyd ym 1892 o gerrig hen gapel maenor Keroudaut[3].
Dyma eglwys fodern y plwyf, wedi ei gysegru 26 Medi, 1993