Gwlithlys hirddail

Drosera intermedia
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau craidd
Urdd: Caryophyllales
Teulu: Droseraceae
Genws: DRosara
Rhywogaeth: D. intermedia
Enw deuenwol
Drosera intermedia
Hayne, 1800

Planhigyn blodeuol cigysol, blynyddol yw Gwlithlys hirddail sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Droseraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Drosera intermedia a'r enw Saesneg yw Oblong-leaved sundew.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gwlithlys Hirddail, Tawddrudd Hirddail.

Mae'r planhigyn hwn yn byw mewn gwlyptiroedd, rhostir, glannau llynnoedd a mannau tebyg, yn enwedig ar dir calchog. Gall ddal a threulio pryfaid bychan yn ei dentaclau gludiog. Cant eu dennu yno gan arogl siwgwr a gaiff ei greu mewn chwarennau pwrpasol.

Cysylltiadau diwylliannol

[golygu | golygu cod]

Bu John Harold [2] yn cofnodi planhigion mewn corstir hyfryd o’r enw Cors y Gwaed, Garndolbenmaen. Un o'r pethau mwyaf amlwg oedd y planhigyn bach coch y gwlithlys hirddail Drosera intermedia, “miloedd ohonynt fel rhwydwaith o lif gwaed wrth ochr y ffrydiau”. Hwn tybed oedd y “gwaed” yn yr enw gofynnodd John?

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Bwletin Llên Natur Rhif 10
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: