Gwrgan Fawr | |
---|---|
Bu farw | 7 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Cynfyn |
Perthnasau | Athrwys ap Meurig |
Brenin teyrnas Erging yn hanner cyntaf y 7g oedd Gwrgan Fawr (Lladin, Gurgantius).
Roedd yn fab ac etifedd i'r brenin Cynfyn, brenin Erging, teyrnas Gymreig gynnar yn yr hyn sy'n Swydd Henffordd heddiw. Ymddengys i'r orsedd gael ei feddiannu gan Gwrfoddw, un o feibion eraill Cynfyn, pan fu farw'r brenin hwnnw, ond daeth Gwrgan yn frenin ar ôl hynny. Cofnodir enw Gwrgan Fawr fel brenin Erging yn y siarteri cynnar yn Llyfr Llandaf.
Mae'r ymchwilydd David Nash Ford yn ceisio ei uniaethu â Gwrgan Frych y cyfeirir ato ym Muchedd Sant Cadog, gan awgrymu ei fod yn rheoli yn nheyrnas Glywysing. Mae'r cysylltiad yn ddadleuol. Ei fab yn Caradog Freichfras.