Scrophularia auriculata | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Scrophulariaceae |
Genws: | Scrophularia |
Rhywogaeth: | S. auriculata |
Enw deuenwol | |
Scrophularia auriculata Carl Linnaeus |
Planhigyn blodeuol lluosflwydd yw Gwrnerth y dŵr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Scrophulariaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Scrophularia auriculata a'r enw Saesneg yw Water figwort.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Gornerth y Dŵr, Danhogen y Dŵr, Dannogen y Dŵr, Danogen y Dwfr a Goreunerth y Dŵr.
Mae i'w gael yng ngorllewin Ewrop ac yng ngogledd Affrica. Ei gynefin arferol ydy glannau afonydd, pyllau dŵr a gwlypdiroedd eraill.[2][3] Mae'n tyfu ar i fyny, yn dalsyth, gydag uchder o hyd at 70 cm gyda dail siap ofal, wedi'u gosod bob-yn-ail ar fonyn gwyrdd-borffor.
Ceir blodau bychan, brown a sepalau gwyrdd gydag ymyl gwyn, ac fe'u gwelir yn blodeuo rhwng Mehefin a Medi. Yna gwelir y codau'n datblygu, pob un yn llawn had.[2]
|publisher=
(help)