Roedd Gwrthryfeloedd Silesia (Pwyleg: Powstania śląskie; Almaeneg: Aufstände in Oberschlesien) yn gyfres o dri gwrthryfel arfog ymysg y Pwyliaid a'r Silesiaid Pwyleg yn Silesia uchaf, rhwng 1919 a 1921 yn erbyn rheolaeth Almaenig; gobeithient gwahanu o'r Almaen ac ymuno ag Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl, a sefydlwyd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ddiweddarach yn hanes Gwlad Pwyl, dathlwyd y gwrthryfeloedd a daethant yn destun balchder cenedlaethol.