Gwynedd Uwch Conwy oedd yr enw a arferid yn yr Oesoedd Canol i gyfeirio at y Gwynedd hanesyddol i'r gorllewin o afon Conwy i'w gwahaniaethu oddi wrth Gwynedd Is Conwy neu'r Berfeddwlad, i'r dwyrain o afon Conwy.
Gwynedd Uwch Conwy oedd tiriogaeth wreiddiol teyrnas Gwynedd. Roedd y Berfeddwlad ar y llaw arall yn rhanedig rhwng mân-deyrnasoedd ac arglwyddiaethau a ddaethant dan reolaeth Gwynedd neu Bowys gyda threigliad amser.
Roedd Gwynedd Uwch Conwy yn cynnwys:
Ychwanegwyd Penllyn ar draul Teyrnas Powys ar ddechrau'r 13g a Meirionnydd yn 1256. Yn ei ffurf derfynol felly, cyfatebai Gwynedd Uwch Conwy i'r hen sir Gwynedd (1974-1996).