Calamia tridens | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Calamia |
Rhywogaeth: | C. tridens |
Enw deuenwol | |
Calamia tridens Hufnagel, 1766 |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyrdd y Burren (neu wyrdd y Boireann), sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyrddion y Burren; yr enw Saesneg yw Burren Green, a'r enw gwyddonol yw Calamia tridens.[1][2] Mae i'w ganfod yn Ewrop. Daw'r enw o ardal yng ngogledd-orllewin Swydd Clare, sef un o siroedd traddodiadol Iwerddon; ystyr yr enw yn y Gaeleg yw "y graig fawr". Dyma'r unig ran o ynysoedd Prydain lle gellir ei weld. Arferid defnyddio'r enw Claddagh amdano ar un adeg.
37–42 mm ydy lled ei adenydd ac mae hyd yr adain blaen yn 17–18 mm. Un genhedlaeth sydd ac mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan rhwng Mehefin a Medi.
Cafodd ei ddarganfod gyntaf yn 1949 gan William Stuart Wright a ddanfonodd y gwyfyn i'r naturiaethwr Eric William Classey a ddosbarthodd ef a'i gofrestru.
Prif fwyd y siani flewog ydy gwair o deulu'r Molinia caerulea.
Mae'r Gwyrdd godreog yn eitha tebyg iddo.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyrdd y Burren yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.