TDI Volkswagen Golf yn 2010, gyda'r geiriau "disel glân" ar ei ochr. Cyn hir, byddai'r cwmni'n wynebu craffu manwl oherwydd sgandal allyriadau VW. | |
Enghraifft o'r canlynol | gweithgaredd economaidd, sbin, hysbysebu |
---|---|
Math | hapfasnach, twyll, propaganda, marchnata gwyrdd |
Y gwrthwyneb | greenhushing |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Gwyrddolchi (gair cyfansawdd tebyg i "gwyngalchu"), yn fath o sbin hysbysebu neu farchnata lle mae cysylltiadau cyhoeddus gwyrdd a marchnata gwyrdd yn cael eu defnyddio'n dwyllodrus i berswadio'r cyhoedd bod sefydliad neu gwmni cynhyrchion, amcanion a pholisïau yn gyfeillgar i'r amgylchedd. Llwch yn llygad y cyhoedd yw gwyrddolchi, ac yn aml iawn fe'i gwneir gan gwmniau nad ydynt mor wyrdd a hynny.[1]
Enghraifft o wyrddolchi yw pan fydd sefydliad yn gwario llawer mwy o adnoddau ar hysbysebu sy'n "wyrdd" nag ar arferion amgylcheddol cadarn.[2] Gall gwyrddolchi amrywio o newid enw neu label cynnyrch i ddwyn i gof yr amgylchedd naturiol (er enghraifft ar gynnyrch sy'n cynnwys cemegau niweidiol) i ymgyrchoedd gwerth miliynau o ddoleri sy'n portreadu cwmnïau ynni hynod lygredig fel rhai ecogyfeillgar. Mae'r gair Cymraeg yn gyfieithiad o Greenwashing gair Saesneg, ac yn cwmpasu agendâu a pholisïau corfforaethol anghynaliadwy Lloegr, America a mannau eraill.[3] Mae cyhuddiadau cyhoeddus yn y 21g wedi cyfrannu at ddefnydd cynyddol y term.[4]
Mae rheoliadau, deddfau a chanllawiau newydd gan sefydliadau fel y Pwyllgor Arferion Hysbysebu yn golygu annog cwmnïau i beidio â defnyddio gwyrddolchi i dwyllo defnyddwyr.[5]
Disgrifiodd TerraChoice, is-adran ymgynghori amgylcheddol, "saith pechod gwyrddolchi" yn 2007 i "helpu defnyddwyr i nodi cynhyrchion a oedd yn gwneud honiadau amgylcheddol camarweiniol":[6]
Erbyn 2010 roedd tua 95% o gynhyrchion yr Unol Daleithiau sy'n honni eu bod yn wyrdd wedi'u darganfod i gyflawni o leiaf un o'r pechodau hyn.[7][8]
Bathwyd y term greenwashing gan yr amgylcheddwr o Efrog Newydd Jay Westerveld mewn traethawd a sgwennodd yn 1986 am arfer y diwydiant gwestai o osod hysbysiadau mewn ystafelloedd gwely yn hyrwyddo ailddefnyddio tywelion i "achub yr amgylchedd". Nododd mai ychydig iawn o ymdrech, os o gwbl, a wneir gan y sefydliadau hyn yn aml i leihau gwastraff ynni, er bod ailddefnyddio tywelion yn arbed costau golchi dillad iddynt. Daeth i'r casgliad bod yr amcan go iawn yn aml yn cynyddu elw a labelodd hyn ac arferion eraill proffidiol - ond aneffeithiol "amgylcheddol - gydwybodol" gyda'r bathiad greenwashing.[9]
Ddiwrnodau cyn Uwchgynhadledd y Ddaear 1992 yn Rio de Janeiro, rhyddhaodd Greenpeace lyfr o'r enw The Greenpeace Book on Greenwash, a ddisgrifiodd sut yr aeth corfforaethau enfawr ati i ddylanwadu ar y gynhadledd; darparodd Greenpeace astudiaethau achos o'r cyferbyniad rhwng llygrwyr corfforaethol a'u rhethreg (gwyrddolchi). Cyhoeddwyd fersiwn estynedig o'r adroddiad hwn gan Third World Network fel "Greenwash: The Reality Behind Corporate Environmentalism."