György Lukács | |
---|---|
Ganwyd | Löwinger György Bernát 13 Ebrill 1885 Budapest |
Bu farw | 4 Mehefin 1971 Budapest |
Dinasyddiaeth | Hwngari |
Addysg | Doethuriaeth Nauk mewn Athroniaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, gwleidydd, llenor, academydd, cymdeithasegydd, beirniad llenyddol, hanesydd celf, philosopher of culture, hanesydd llenyddiaeth, ysgolhaig llenyddol |
Swydd | member of the Provisional National Assembly, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Hwngari, Minister of Public Instruction |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Hungary, Hungarian Working People's Party, Hungarian Socialist Workers' Party |
Plant | Ferenc Jánossy, Lajos Jánossy |
Gwobr/au | Gwobr Kossuth, Gwobr Goethe, Gwobr Kossuth, Urdd y Faner Goch, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words) |
Athronydd Marcsaidd, beirniad llenyddol, a gwleidydd comiwnyddol o Hwngari oedd György Lukács (13 Ebrill 1885 – 4 Mehefin 1971).
Ganed yn Budapest, Awstria-Hwngari, i deulu o Iddewon cefnog. Ymaelododd â Phlaid Gomiwnyddol Hwngari ym 1918, a gwasanaethodd yn gomisâr diwylliant ac addysg yn llywodraeth Béla Kun yng Ngweriniaeth Sofietaidd Hwngari (1919). Yn sgil cwymp Kun, symudodd Lukács i Fienna ac yno bu'n weithgar yn y mudiad tanddaearol. Golygodd y cylchgrawn Kommunismus a chyhoeddodd ei gyfrol arloesol Geschichte und Klassenbewußtsein (1923; "Hanes ac Ymwybyddiaeth o Ddosbarth"). Datblygodd Lukács syniadaeth Farcsaidd a oedd yn debycach i fydolwg athronyddol a diwylliannol nac i ddadansoddiad gwyddonol.[1]
Symudodd Lukács i Ferlin ym 1929. Aeth i'r Undeb Sofietaidd ym 1930–31 i fynychu Athrofa Marx-Engels ym Moscfa, a dychwelodd yno ym 1933 i astudio athroniaeth yn Athrofa'r Academi Rwsiaidd. Arhosodd yn yr Undeb Sofietaidd drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, a dychwelodd i'w famwlad ym 1945. Fe'i etholwyd yn aelod o Senedd Hwngari a chafodd swydd athro estheteg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Budapest. Lukács oedd un o brif arweinwyr Chwyldro Hwngari ym 1956 a gwasanaethodd yn weinidog diwylliant yn llywodraeth Imre Nagy. Cafodd ei arestio a'i alltudio i Rwmania am ei ran yn y chwyldro, ond rhoddwyd caniatâd iddo ddychwelyd i Hwngari ym 1957. Bu farw yn Budapest yn 86 oed.[1]