Enghraifft o'r canlynol | gŵyl gerddoriaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1970 |
Genre | cerddoriaeth Celtaidd |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Rhanbarth | An Oriant |
Gwefan | http://www.festival-interceltique.bzh |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gŵyl flynyddol o gerddoriaeth a diwylliant Celtaidd a gynhelir yn ninas An Oriant (Ffrangeg: Lorient) yn Llydaw yw Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant (Ffrangeg: Festival Interceltique de Lorient; Llydaweg: Gouelioù Etrekeltiek An Oriant). Sefydlwyd yr ŵyl yn 1971.
Cynrychiolir Llydaw, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Ynys Manaw, Ynys Cape Breton, Galicia ac Asturias; felly mae diffiniad yr ŵyl o wlad Geltaidd ychydig yn ehangach na diffiniad yr Undeb Celtaidd er enghraifft. Cynhelir y rhan fwyaf o'r digwyddiadau ynghanol dinas Lorient, gyda'r digwyddiadau mwyaf yn stadiwm clwb pêl-droed FC Lorient.
Agorir yr ŵyl gyda'r Kaoteriad, swper bwyd môr traddodiadol Lydewig ac, ar y Sul, mae'r Orymdaith Fawr yn arwain trwy'r ddinas.
Mae 2008 wedi ei dynodi fel "Blwyddyn Cymru". Cynhelir yr ŵyl o 1 Awst hyd 10 Awst 2008 gyda bandiau Cymreig Calan; Carreg Lafar; Clerorfa; Crasdant; Catrin Finch; Ffynnon; Meinir Heulyn; Hen Wlad Fy Mamau; Yr Hwntws, Delyth Jenkins, Bethan Nia; Lleuwen Steffan; MC Mabon; Rag Foundation; a Toreth yn chwarae. Hefyd mae'r Chieftains (Iwerddon); Nolwenn Korbell (Llydaw); Loreena McKennitt (Canada) a Moving Heart (Iwerddon) yn berfformio.
Rhai o'r artistiaid a gymerodd ran yn 2007 oedd: Dan Ar Braz (Llydaw); Capercaillie (Yr Alban); The Dubliners (Iwerddon); Delyth Jenkins (Cymru); Luar na Lubre (Galicia); Y Moniars (Cymru); a Sinéad O'Connor (Iwerddon).
Yn 2022 gwelwyd perfformiadau gan grwpiau Cymaeg megis Alffa, Avanc, Cerys Hafana, Lily Beau, NoGood Boyo, Only Boys Aloud a Gwilym Bowen Rhys.[1] Fel rhan o'r cyfnod bu iddo recordio ffilmig gyda sianel gerddoriaeth ar-lein S4C, Lŵp, gyda'r actor o Lydaw, Azenor Kallag, yn cymharu geiriau Cymraeg a Llydaweg. Bu i'r ffilm fer dderbyn ymateb dda a llawer yn ei rannu.[2]
Yn ogystal â cherddoriaeth a dawns, ceir peth trafodaethau a sgyrsiau mwy deallusol ar natur hunaniaethau a'r ieithoedd Celtaidd. Yn 2023 bu i Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru annerch yr ŵyl i drafod strategaeth miliwn o siaradwyr Cymraeg y Llywodraeth.[3]