Hafod (Abertawe)

Hafod
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAbertawe Edit this on Wikidata
SirGlandŵr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6313°N 3.9397°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Ardal yn ninas Abertawe, De Cymru yw'r Hafod, ac mae wedi'i lleoli i'r gogledd o ganol y ddinas. Lleolir Hafod Copperworks yn yr ardal, a sefydlwyd yn 1810. Caeodd y safle yn 1980, ac mae bellach yn cael ei datblygu'n safle treftadaeth ddiwydiannol. Mae'r Hafod yn gymuned ddiwylliannol iawn. 

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[1][2]

Disgrifad 

[golygu | golygu cod]

Maestref breswyl yw ardal orllewinol Hafod. Tua ddiwedd yr ugeinfed ganrif, roedd yr ardal hon yn ardal dlawd iawn o Abertawe, gyda phrisiau'r tai yno gyda'r isaf yng nghanol y ddinas. Mae llawer o'r strydoedd wedi elwa ar grantiau gan y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf. 

Mae ysgol gyfun yn yr ardal o'r enw Ysgol Pentrehafod, ac ysgol gynradd leol hefyd. Ceir cyfleusterau chwaraeon a phwll nofio yn yr ardal. 

Ffordd Osgoi Hafod

[golygu | golygu cod]

Ers sawl blwyddyn, mae cynllun wedi bod i adeiladu ffordd osgoi yn yr Hafod. Mae North Road sy'n mynd drwy'r Hafod yn heol brysur iawn, ac mae'r bysiau yn ei defnyddio fel prif heol ar gyfer mynd i'r ddinas. Er hyn, ceir dwy rhes o dai bob ochr iddi. Yn 20016, cymeradwywyd cynllun gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe ar gyfer ailddatblygu'r ffordd ac adeiladu heol newydd ar hyd y rheilffordd. Bydd yr heol newydd yn mynd o Stadiwm Liberty tua ganol y ddinas. 

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014