Enghraifft o'r canlynol | sefydliad parafilwrol |
---|---|
Idioleg | Seioniaeth |
Daeth i ben | 28 Mai 1948 |
Label brodorol | הֲגָנָה |
Dechrau/Sefydlu | 15 Mehefin 1920 |
Lleoliad | Palesteina dan Fandad |
Olynydd | Llu Amddiffyn Israel |
Enw brodorol | הֲגָנָה |
Gwefan | https://irgon-haagana.co.il |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Haganah (Hebraeg: הַהֲגָנָה ha-Haganah, yn llyth. 'Yr Amddiffyniad' ) oedd y prif fudiad parafilwrol Seionaidd a weithredai dros yr Yishuv ym Mhalestina dan Fandad.[1] Fe'i sefydlwyd ym 1920 i amddiffyn presenoldeb yr Yishuv ym Mhalestina, ac fe'i diddymwyd yn ffurfiol ym 1948, pan ddaeth yn rhan greiddiol o Lluoedd Amddiffyn Israel wedi i Israel ddatgan annibyniaeth.
Cafodd yr Haganah ei ffurfio o milisia oedd eisoes yn bodoli. Ei ddiben gwreiddiol oedd amddiffyn y gwladychfeydd Iddewig rhag gwrthsafiad y Palestiniaid Arabaidd brodorol. Dyma a ddigwyddodd yn ystod terfysgoedd Nebi Musa 1920, terfysgoedd Jaffa 1921, terfysgoedd Palestina 1929, terfysgoedd Jaffa 1936, a'r gwrthryfel Arabaidd 1936-1939 ym Mhalestina, ymhlith digwyddiadau eraill. Roedd y llu para-filwrol dan reolaeth yr Asiantaeth Iddewig, y corff llywodraethol swyddogol a oedd yn gyfrifol am gymuned Iddewig Palestina yn ystod cyfnod y Mandad Brydeinig. Hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ystyriwyd gweithgareddau'r Haganah gan rai yn gymedrol, ac yn unol â pholisi strategol havlagah ('hunanreolaeth'). Dyna a achosodd i'r lluoedd para-filwrol mwy radicalaidd, fel Irgun a Lehi, ymddatgysylltu oddi wrtho. Cafodd milwriaethwyr yr Haganah gefnogaeth filwrol ddirgel o Wlad Pwyl a cheisiasant gael cydweithrediad y Deyrnas Unedig pe bai yr Echel yn ymosod ar Balesteina trwy Ogledd Affrica. Dyma oedd y sbardun i greu’r Palmach, eu llu ymladd elitaidd, yn 1941.[2]
Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, gwrthododd y Prydeinwyr godi'r cyfyngiadau ar fewnfudo Iddewig yr oeddent wedi'u gosod o ganlyniad i Bapur Gwyn 1939. Parodd hyn i'r Haganah arwain gwrthryfel yn erbyn yr awdurdodau Prydeinig ym Mhalestina; roedd yr ymgyrch yn cynnwys bomio pontydd, rheilffyrdd, a llongau a ddefnyddiwyd i alltudio mewnfudwyr Iddewig anghyfreithlon ('Alyah Bet'), yn ogystal â chynorthwyo i ddod â mwy o Iddewon ar wasgar i Balestina yn groes i bolisïau Prydain. Ar ôl mabwysiadu Cynllun Rhannu Palestina'r Cenhedloedd Unedig yn 1947, daeth yr Haganah i'r amlwg fel y llu arfog mwyaf ymhlith Iddewon Palestina, gan faeddu'r milisias Arabaidd yn llwyddiannus yn ystod Rhyfel Cartref Palestina. Yn ystod y cyfnod hwn bu'r Haganah yn gyfrifol am weithredu Cynllun Dalet a chwarae rhan fawr yn y gwaith o garthu Palestina o'i thrigolion Palesteinaidd.[3] Yn fuan ar ôl dechrau Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948, unwyd yr Haganah â'r grwpiau parafilwrol eraill a'u had-drefnu'n fyddin swyddogol Gwladwriaeth Israel.
Bu'r awdur Judith Maro yn aelod o'r Haganah ers iddi fod y ferch ifanc yn Haifa. Cyhoeddodd gyfrol o atgofion o'i chyfnod yn yr Haganah ym 1972 o dan y teitl Atgofion Haganah.[4] Yn Saesneg ysgrifennodd hi'r gyfrol yn wreiddiol, a William Williams a gyfieithodd hi i'r Gymraeg. Dim ond yn Gymraeg mae'r gyfrol ar gael.