Grŵp o gyfansoddion cemegol sydd wedi deillio o alcannau ac yn cynnwys un neu mwy o'r halogenau (fel Grŵp gweithredol) yw halogenoalcan (a elwir hefyd yn haloalcanau neu alcyl halidau). Defnyddir halogenau yn fasnachol dan nifer o enwau cemegol a masnachol. Defnyddir halogenoalcanau fel deunydd gwrthdan, diffoddwyr tan, oeryddion, toddyddion ac ar gyfer deunydd fferyllol. Cyn i'r defnydd mawr mewn masnach, mae nifer o'r hydrocarbonau yma wedi profi i fod yn llygryddion peryglus. Mae gwacâd yr Haen osôn gyda clorofflwrocarbonnau yn enghraifft o hyn.
Gall haloalcanau gael eu henwi trwy ychwanegu rhagddodiad y halogen at enw llawn y alcan, er enghraifft: fflworomethan, cloroethan, bromopropan ac yn y blaen. Cewch chi hefyd enwi'r halogenau trwy defnyddio'r halogen fel olddodiad, ac yn rhoi enw'r grŵp alcyl cyn iddo, er enghraifft: methyl fflworid, ethyl clorid, propyl bromid ayb. Mae gyda rai halogenoalcanau enwau cyffredin sy'n cael eu defnyddio yn fwy na'r enwau systemig, e.e. clorofform yw'r enw cyffredin am dricloromethan.