Enghraifft o'r canlynol | grwp neu ddosbarth o sylweddau cemegol |
---|---|
Math | contaminant |
Mae halogiad bwyd yn cyfeirio at bresenoldeb cemegion niweidiol a micro-organebau mewn bwyd a all achosi salwch mewn defnyddwyr. Mae'r erthygl hon yn mynd i'r afael â halogiad cemegol mewn bwydydd, yn hytrach na halogiad microbiolegol, sydd ar gael dan afiechydon a gludir gan fwyd.
Nid yw effaith halogion cemegol ar iechyd a lles y cyhoedd yn dod i'r amlwg ar ôl nifer o flynyddoedd o'u prosesu. Gall cysylltiad am gyfnod hir ar lefelau isel (e.e. cancr). Yn aml, nid yw halogion cemegol sydd mewn bwydydd yn cael eu heffeithio gan brosesu â gwres (yn annhebyg i'r mwyafrif o gyflyrrau micrbiolegol). Gellir dosbarthu halogion cemegol yn ôl ffynhonnell yr halogiad, a'r modd maent yn mynd i'r cynnyrch bwyd.
Cemegion sy'n bresennol yn yr amgylchedd lle caiff y bwyd ei dyfu, ei gynaeafu, ei gludo, ei storio, ei becynnu, ei brosesu a'i fwyta yw halogion amgylcheddol. Mae cyswllt ffisegol y bwyd â'i amgylchedd yn arwain at ei galogi. Mae ffynonellau halogiad posibl yn cynnwys:
Mae nifer o achosion o blaleiddiaid neu garsinogenau wedi'u gwahardd wedi'u canfod mewn bwyd.
Mae llawer o stigma mewn perthynas â phresenoldeb gwallt mewn bwyd yn y mwyafrif o gymunedau. Mae perygl y gall achosi tagu a chwydu, ac hefyd y gallai fod wedi'i halogi â sylweddau tocsig.[3] Mae gwahanol farn o ran y lefel o risg mae'n ei achosi i'r defnyddiwr diofal.[4][5][6]
Weithiau defnyddir protein o wallt pobl fel cynhwysyn,[7] mewn bara a chynhyrchion o'r fath. Mae defnyddio gwallt yn y modd hwn wedi'i wahardd yn Islam.[8] Historically, in Judaism, finding hair in food was a sign of bad luck.[9]
Caiff halogion prosesu eu cynhyrchu yn ystod prosesu bwyd (e.e. gwresogi, eplesu). Maen nhw'n absennol yn y deunyddiau crai, a chânt eu ffurfio gan adweithiau cemegol rhwng cyfansoddion bwyd naturiol a/neu wedi'u hychwanegu yn ystod prosesu. Ni ellir osgoi presenoldeb yr halogion hyn mewn bwydydd wedi'u prosesu yn llwyr. Er hynny, gellir diwygio a/neu wella prosesau technegol er mwyn lliehau'r lefelau ffurfio halogion prosesu. Mae rhai enghreifftiau'n cynnwys: nitrosamines, hydrocarbonau aromatig polycyclig (PAH), heterocyclic amines, histamin, acrylamid, furan, benzene, braster trans, 3-MCPD, semicarbazide, 4-hydroxynonenal (4-HNE), ac ethyl carbamate. Mae hefyd y posibiliad o ddarnau metal o'r offer prosesu yn halogi bwyd. Gellir canfod y rhain drwy ddefnyddio offer canfod metalau.
Er bod nifer o halogion bwyd yn wybyddus ers degawdau, mae presenoldeb rhai cemegion penodol a sut cânt eu ffurfio wedi'u canfod yn weddol ddiweddar. Dyma'r halogion bwyd sy'n dod i'r amlwg, megis acrylamid, furan, benzene, perchlorate, perfluorooctanoic acid (PFOA), 3-monochloropropane-1,3-diol (3-MCPD), 4-hydroxynonenal, a (4-HNE).
Caiff lefelau derbyniol dyddiol (Acceptable Daily Intake) a chrynodiadau goddefiad halogion mewn bwydydd unigol eu pennu ar sail y "Lefel Dim Effaith Niweidiol wedi'i Nodi" (NOAEL) mewn arbrofion ar anifeiliaid, gan ddefnyddio'r ffactor diogelwch (100 fel arfer). Mae'r crynodiadau uchaf o halogion a ganiateir yn ôl deddfwriaeth yn aml llawer yn is na lefelau goddefiad gwenwyndra, oherwydd gellir cyflawni lefelau o'r fath yn rhesymol drwy arferion amaethyddol a gweithgynhyrchu da.
Er mwyn cadw ansawdd uchel bwyd a chydymffurfio â safonau rheoleiddio iechyd, diogelwch ac amgylcheddol, argymhellir dibynnu ar brofion halogion bwyd drwy drydydd parti annibynnol megis labordau, cwmniau ardystio neu debyg. Ar gyfer gweithgynhyrchwyr, gall profi am halogion bwyd leihau'r perygl o ddiffyg cydymffurfio mewn perthynas â chynhwysion amrwd, bwydydd sydd wedi'u gweithgynhyrchu'n rhannol a'r cynhyrchion terfynol. Ar hynny, mae profion halogion bwyd rhoi sicrwydd o ran diogelwch defnyddwyr ac ansawdd y cynhyrchion bwyd sydd wedi'u prynu, a gall atal clefydau a gludir gan fwyd, a pheryglon cemegol, microbiolegol neu ffisegol.[10]
|deadurl=
ignored (help)