Enghraifft o'r canlynol | hanes gwlad neu wladwriaeth |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o'r llwythau Slafig gwreiddiol oedd y Belarwsiaid. Yr oedd Belarws yn rhan o Rws Cïef tan farwolaeth y Brenin Yaroslav I "y Doeth" ym 1054. Parhaodd y Belarwsiaid yn grŵp ethnig ar wahân i'r Rwsiaid am iddynt drigo yn y gororau ac felly'n agored i oresgyniadau a chysylltiadau o'r gorllewin, a buont dan dra-arglwyddiaeth pwerau eraill, yn bennaf Coron Pwyl. Daeth Belarws dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia yn sgil rhaniad Gwlad Pwyl ym 1795. Tyfodd cenedlaetholdeb Belarwsiaidd yn y 19g ac wedi'r Chwyldro Bolsieficaidd ym 1917 manteisiwyd ar y cyfle i ddatgan annibyniaeth Belarws. Fodd bynnag, datganwyd Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws ym 1919 ac fe'i ymgorfforwyd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd ym 1921. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, ehangodd ei thiriogaeth i gynnwys tiroedd a fu ynghynt yn rhan o Wlad Pwyl yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, ac yn ystod y Rhyfel Oer bu'n hawlio aelodaeth ei hun, ar wahân i'r Undeb Sofietaidd oll, yn y Cenhedloedd Unedig. Gwan a fyddai hunaniaeth genedlaethol ym Melarws nes iddi ennill ei hannibyniaeth yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991. Mae Belarws yn un o sefydlwyr Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol, ac ym 1997 cytunodd i uno â Ffederasiwn Rwsia fel "cymuned wleidyddol ac economaidd integredig", er i'r Arlywydd Alexander Lukashenko wrthod cynnig i uno'r ddwy lywodraeth yn 2002.