Hannah Waddingham | |
---|---|
Ganwyd | 28 Gorffennaf 1974 Wandsworth |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor llwyfan, actor ffilm, cyflwynydd teledu |
Gwobr/au | Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi |
Actores, cantores a chyflwynydd teledu o Loegr yw Hannah Waddingham (ganwyd 28 Gorffennaf 1974)[1]. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y gyfres deledu gomedi Ted Lasso (2020-presennol), ac enillodd sawl gwobr amdani. [2] Mae hi wedi ymddangos mewn sioeau yn y West End fel Spamalot. Mae hi wedi derbyn tri enwebiad Gwobr Olivier.
Cafodd Waddingham ei geni yn Wandsworth, Llundain, yn ferch i'r gantores opera Melodie Kelly. [3] Roedd Kelly yn aelod o’r English National Opera.[3] [4]
Graddiodd Waddingham o Academi Celfyddydau Byw a Recordiedig . [5] Dechreuodd ei gyrfa mewn theatr ginio, gan berfformio yn y comedi rhyngweithiol Joni a Gina's Wedding.[3][6]
|access-date=
(help)