Math | dyffryn, graben |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bláskógabyggð, Suðurland |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Cyfesurynnau | 64.3147°N 20.3042°W, 64.312954°N 20.312036°W |
Enw dyffryn yng Ngwlad yr Iâ yw Haukadalur (yr ystyr mewn Islandeg yw Ddyffryn yr Hebog, cymharer â 'hawk dale 'yn Saesneg). Mae'n gorwedd i'r gogledd o lyn Laugarvatn yn ne-orllewin Gwlad yr Iâ ar 64°18′40″N 20°17′2″W / 64.31111°N 20.28389°W.
Haukadalur yw cartref rhai o uchafbwyntiau naturiol Gwlad yr Iâ: y geyser a nodweddion geothermal eraill sydd wedi datblygu ar hyd dôm y Laugarfjall rhyolitic. Geysers mwyaf Haukadalur yw Strokkur a'r Geysir ei hun - a dyma roddodd y gair 'geyser' (neu 'giser'[1]) i ni. Mae Strokkur yn ddibynadwy iawn ac yn ymarllwys bob 5 i 10 munud, tra bod y Geysir ei hun, sydd yn fwy, yn ymarllwys yn llawer llai aml. Ceir hefyd mwy na 40 ffynnon boeth, mwd byw a fumarolau ger llaw.
Ceir y cofnod ysgrifenedig cynharaf o ardal geothermal Haukadalur yn 1294, pan sbardunwyd y ffynhonau poeth lleol gan ddaeargryn. Gwyddys i ddeargrynfeydd hefyd sbarduno giserau eraill gerllaw yn y gorffennol. Mae'r rhain yn cynnwys daeargrynfeydd a ddigwyddodd ar 17 a 21 Gorffennaf 2000. O ganlyniad i'r giserau, mae'r dyffryn yn atyniad boblogaidd gyda thwristiaid ers y 18g.
Mae rhaeadr Gullfoss oddeutu 10 km i'r gogledd tuag at ucheldiroedd Gwlad yr Iâ ar hyd ffordd Kjölur. Yn ogystal â Gullfoss a'r Þingvellir, mae Haukadalur yn rhan o'r drindod sy'n creu cylchdaith enwog 'Y Cylch Aur' (Golden Ring) sy'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr a thwristiaid.