Math | cymuned heb ei hymgorffori |
---|---|
Enwyd ar ôl | Hwlffordd |
Daearyddiaeth | |
Sir | Delaware County, Montgomery County |
Gwlad | UDA |
Yn ffinio gyda | Radnor Township |
Cyfesurynnau | 40.0131°N 75.2944°W |
Cymuned heb ei hymgorffori (unincorporated community) yn nhalaith Pennsylvania, Unol Daleithiau America, yw Haverford. Saif tua 3 milltir (4.8 km) i'r gorllewin o ddinas Philadelphia. Rhennir y gymuned rhwng Haverford Township yn Delaware County, a Lower Merion Township ym Montgomery County.
Mae'n cynnwys Coleg Haverford a chlwb criced Merion. Mae Gorsaf reilffordd Haverford ar lein SEPTA Paoli-Thorndale, ac mae lein Norristown yn mynd trwy'r ardal hefyd.[1]