Dr Hefin David AS | |
---|---|
Aelod o'r Senedd dros Caerffili | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Jeff Cuthbert |
Mwyafrif | 1,575 |
Manylion personol | |
Ganwyd | Caerffili | 13 Awst 1977
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Gwefan | Tudalen ar facebook |
Gwleidydd Llafur Cymru yw Hefin Wyn David (ganwyd 1977). Mae'n Aelod o'r Senedd dros etholaeth Caerffili ers 2016. Mae hefyd yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Caerffili dros ward Catwg Sant.[1]
Mae gan David BScEcon mewn Economeg a Gwleidyddiaeth, MScEcon mewn Polisi Ewropeaidd o Brifysgol Caerdydd, PGCE o Brifysgol Cymru, Casnewydd a PhD o Brifysgol Swydd Gaerloyw. Darlithiodd mewn Ymddygiad Cyfundrefnol a Rheolaeth Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.[2]
Dewiswyd David fel ymgeisydd newydd Llafur Cymru dros etholaeth Castell-nedd ar gyfer etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 yn dilyn ymddeoliad yr aelod blaenorol Jeff Cuthbert.[3] Ar 5 Mai 2016, cafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad; derbyniodd 9,584 o'r 27,1153 pleidlais a fwriwyd (35.3%).[4]