Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm |
---|---|
Math | ffilm |
Genre o ffilmiau a oedd yn boblogaidd yn yr Almaen, Awstria ac y Swistir o ddiwedd y 1940au i'r 1960au cynnar yw Heimatfilm (ynganiad Almaeneg: [ˈhaɪmatˌfɪlm]; lluosog, Heimatfilme). Gellir cyfieithu Heimatfilm fel "ffilm y mamwlad" neu, efallai'n fwy cywir mewn cyd-destun Gymreig, "ffilm cynefin".
Dechreuodd y genre ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a pharhaodd yn boblogaidd hyd y 1960au cynnar. Roedd y ffilmiau'n awgrymu byd rhamantaidd heb ei gyffwrdd gan ryfel a pheryglon bywyd go iawn. Roedd mwy na 300 o Heimatfilme wedi'u creu erbyn dechrau'r 1960au. Roeddent yn cynnig y sicrwydd yr oedd llawer o bobl yn dyheu amdano ar ôl dinistrio rhyfel a threchu'r Almaen yn llwyr. Cafodd canlyniadau cymdeithasol y rhyfel, megis teuluoedd amddifad, diarddel a dadleoliad gorfodol, eu cyferbynnu â delweddau a alluogodd wylwyr i fynd ar daith fer i fyd delfrydol. Roedd yr Heimatfilm hefyd yn dangos ffordd draddodiadol o fyw a oedd ar fin diflannu.[1]
Fel arfer ffilmwyd Heimatfilme yn yr Alpau, y Fforest Ddu, neu Rhostir Lüneburg. Roeddent bob amser yn ymwneud â'r awyr agored. Eu nodweddion oedd eu lleoliadau gwledig, naws sentimental a moesoldeb syml. Roeddent yn canolbwyntio ar gariad, cyfeillgarwch, teulu a bywyd gwledol. Roedd eu themâu yn cynnwys y gwahaniaeth rhwng hen ac ifanc, traddodiad a chynnydd, a bywyd gwledig a threfol.