Defod ar ffurf gorymdaith (a chasgliad o ganeuon cysylltiedig) a geid yn y gwledydd Celtaidd oedd hela'r dryw (amrywiad: hela'r dryw bach) a oedd yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol yn ymwneud â dathlu duw'r goleuni, drwy aberthu brenin yr adar, sef y dryw bach, i'r duw hwn. Mae'n dilyn dydd byra'r flwyddyn, sef Alban Arthan ac yn ddathliad fod yr haul yn codi'n gynt, pob cam ceiliog ac o ailenedigaeth yr haul. Mae creu'r aderyn lleiaf yn symbol o'r haul, y duw mwyaf, yn eironig iawn. Mae ailactio marwolaeth ac ailenedigaeth yr haul mewn defod, fel hyn, yn digwydd mewn llawer o ieithoedd Indo-Ewropeaidd; ystyr y gair 'dryw' mewn sawl iaith yw 'brenin'. Daeth y traddodiad i ben yng ngwledydd Prydain, fwy neu lai oherwydd y Gymdeithas yn Erbyn Creulondeb i Anifeiliaid, yn dilyn ymgyrch ganddynt, yn ôl William S. Walsh yn ei lyfr Curiosities of Popular Customs.
Crybwyllir y ddefod hon gyntaf yn 1696 (gweler isod).[1] Ceir tystiolaeth o'r ddefod hefyd mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Saesneg a Ffrangeg. Arferid ei chynnal drwy Ragfyr a dechrau Ionawr, hyd at Nos Ystwyll (6ed o Ionawr). Parhaodd y ddefod yn ddi-dor yn Iwerddon, ac fe'i dathlwyd yn benodol ar y 26ain o Ragfyr (Gŵyl San Steffan).
Dywed Edward Llwyd (1660-1709): "Arferent yn Swydd Benfro ayb ddwyn driw mewn elor ar Nos Ystwyll; oddi wrth gŵr ifanc at ei gariad, sef dau neu dri ai dygant mewn elor gyda rhubanau; ag a ganant garolion. Ânt hefyd i dai eraill lle ni bo cariadon a bydd cwrw ayb." Diflannodd yr arferiad hwn o Gymru oddeutu 1890.[2]
Weithiau, os nad oedd dryw ar gael defnyddid aderyn y to. Arferai criw'r orymdaith fynd o dŷ i dŷ yn cynnig hela dryw, ac fel tâl am y gwaith, cânt fwyd, diod neu arian. Yn aml iawn, roedd ganddynt flwch pwrpasol ar ffurf cawell er mwyn cadw'r aderyn yn fyw. Am hwyl, cludai rhai o'r dorf bastwn, picell neu arfau eraill. Mae'r ddefod yn eitha tebyg i orymdaith y Fari Lwyd mewn sawl ffordd, gan gynnwys y defnydd o wahoddiad i dŷ, bwyd, diod, lliw, rhubannau a chlychau.
Roedd rhywbeth cyfrin iawn am adar i'r Celtiaid; fe geir darluniau niferus ohonynt, yn arbennig o adar dŵr. Ceir chwedl yn y Mabinogi am ddryw bach, sydd efallai'n brawf o bwysigrwydd yr aderyn: 'Daeth Arianrhod ar fwrdd y llong, er mwyn i Gwydion a Lleu Llaw Gyffes gael mesur ei thraed a thra’r oedd Arianrhod yno, daeth dryw bach a tharawodd y bachgen ef, rhwng gewyn ac asgwrn ei goes gyda nodwydd.' Mae hyn yn debyg iawn i un o linellau'r gân Wyddeleg (gweler isod): Do chaitheas-sa mo mhaide leis is bhriseas a chos; ('Mi deflais fy ffon a thorrais ei goes.)[3] Cofnodwyd y Mabinogi yn y 12g, ond mae'r stori ei hun yn llawer hŷn.
Mae'r traddodiad o hela'r dryw wedi parhau'n ddi-dor yn yr Iwerddon[4] ac yn Ynys Manaw.[5]. Yn Ynys Manaw, gwrthodai'r pysgotwyr fynd i'w llongau heb bluen y dryw - i ddod â lwc dda; credai pobl yr ynys hefyd fod plu'r dryw yn cadw melltithion gwrachod i ffwrdd. Mewn chwedloniaeth Gaeleg, mae adar yn gyfryngwyr rhwng y byd hwn a'r byd nesaf. Defnyddiai'r derwyddon batrwm hedfan adar i ddarogan a chred rhai fod y gair 'dreoilín' (dryw) yn gywasgiad o'r gair 'derwydd'. Yng Ngorllewin Ceri, ceir ceffyl cogio yn arwain yr orymdaith, un tebyg iawn i'r Fari Lwyd, a gwisgir y 'Wrenboys' mewn gwisgoedd o wellt. Rhan anhepgor o'r ddefod oedd claddu'r dryw a ddeuai ar ddiwedd y ddefod. Caed cân 'tafod yn y foch' yn rhan o'r hwyl, ac yn symbol o gladdu'r hen haul, cyn Alban Arthan.
Cofnodwyd nifer o ganeuon yn ymwneud â'r arfer o hela'r dryw mewn nifer o wledydd, gyda'r hynaf yn dyddio'n ôl i 1776. Maent ar gael yn yr ieithoedd canlynol:
Mae'r gân Aeleg An Dreoilín yn amrywiad diddorol, sy'n ddisgrifiad o farwolaeth dryw a leddir gan gath; yn hytrach nag yn ymweneud â hela'r brenin dryw. Atgofir rhywun o Leu yn lladd y dryw bach yn y Mabinogi. Cân fodern yw hi, a ysgrifennwyd yn y 2010au gan Sean Monaghan.