Helmlys cyffredin Frullania dilatata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Frullaniaceae |
Genws: | Frullania |
Rhywogaeth: | F. dilatata |
Enw deuenwol | |
Frullania dilatata |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Helmlys cyffredin (enw gwyddonol: Frullania dilatata; enw Saesneg: dilated scalewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon yn gyffredin iawn yng Nghymruac yng ngwledydd eraill Prydain, ac Iwerddon.
Mae gan y llysieuyn afu gwyrddlas neu frown, canghennog hwn goesynnau sy'n 0.7–1.5 mm o led, gyda dail hyd at 1 mm o led a 1.2 mm o hyd; mae llabedau crwn i'r dail.
Mae'n tyfu ar amrywiaeth o goed, yn enwedig coed ynn (Fraxinus excelsior), helyg (Salix), poplys (Populus) ac ati, mewn amgylchoedd gyda digon o haul.
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.