Henrietta Antonia Clive, Iarlles Powis | |
---|---|
Ganwyd | 3 Medi 1758 Bromfield |
Bu farw | 3 Mehefin 1830 Neuadd Walcot |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | botanegydd |
Tad | Henry Herbert, Iarll 1af Powis |
Mam | Barbara Herbert, Iarlles Powis |
Priod | Edward Clive, Iarll 1af Powis |
Plant | Charlotte Percy, Duges Northumberland, Edward Herbert, 2ail Iarll Powis, Robert Clive, yr Arglwyddes Henrietta Clive |
Roedd Henrietta Antonia Clive, Iarlles Powis (née y Fonesig Henrietta Antonia Herbert), (3 Medi, 1758 - 3 Mehefin, 1830), yn awdures, casglwr mwynau a botanegydd Gymreig.[1] Roedd ei hamser yn yr India, tra bod ei gŵr yn gwasanaethu fel Llywodraethwr Madras, yn ysbrydoliaeth iddi yn y tri maes.[2]
Ganwyd Iarlles Powis ym Mharc Oakley, Bromfield, Swydd Amwythig, i deulu pendefig. Roedd hi'n ferch i Henry Herbert, Iarll 1af Powis, a Barbara, wyres William Herbert, 2il Ardalydd Powis. Roedd ei theulu yn berchen ar eiddo yn Llundain ac ystadau sylweddol yng Nghymru a Swydd Amwythig. Gwerthwyd ei man geni i Robert Clive, Barwn 1af Clive o Plassey, ym 1771, felly treuliodd y Fonesig Henrietta ei harddegau yn nhŷ hynafol y teulu, Castell Powys.[3]
Priododd y Fonesig Henrietta mab ac etifedd yr Arglwydd Robert Clive, Edward Clive, 2il Barwn Clive o Plassey, ym 1784. Roedd y briodas yn fuddiol i'r ddau deulu; roedd gan fam y briodferch enw mawreddog ond llawer o ddyledion, tra bod cyfoeth y priodfab wedi'i gronni yn ystod ymgyrchoedd milwrol Clive yr hynaf yn India. Ymgartrefodd y cwpl yn Neuadd Walcot, yn Lydbury North ger Trefesgob, Swydd Amwythig.[4] Bu iddynt bedwar plentyn:
Etifeddodd Lady Clive ystadau Herbert ar farwolaeth ei brawd, George Herbert, 2il Iarll Powis, ym 1801, pan ddaeth Iarllaeth Powis i ben. Dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd yr iarllaeth ei ail-greu o blaid ei gŵr, gan ei gwneud hi'n Iarlles Powis.
Ym 1798, penodwyd yr Arglwydd Clive yn Llywodraethwr Madras. Dilynodd yr Arglwyddes Clive ef i'r India lle dechreuodd gasglu creigiau a mwynau. Y ferch aristocrataidd gyntaf i ddilyn y hobi hwnnw. Gan fod ei chasgliad yn tyfu, cysylltodd yr Arglwyddes Clive â chasglwyr a gwerthwyr mwynau amlwg, megis James Sowerby, John MacCulloch a Iarlles Aylesford. Mae ei chofnodion yn dangos bod llawer o'r sbesimenau wedi'u rhoi iddi hi gan ei phlant. Trefnwyd y mwynau yng nghasgliad Arglwyddes Clive, a oedd yn cynnwys dros 1,000 o enghreifftiau, yn systematig yn ôl eu natur cemegol, fel oedd yr arferol yn gynnar yn y 19eg ganrif. Yn 1817 cofnododd ei chasgliad â llaw i mewn i ddau gatalog, gan ddefnyddio rhifau i nodi pob sbesimen. Mae chwarter y casgliad gwreiddiol bellach yn cael ei gadw yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru [3] fel un o'r casgliadau mwynau hanesyddol pwysicaf, wedi ei gyflwyno i'r amgueddfa gan ei gor-ŵyr, George Herbert, 4ydd Iarll Powis, ym 1929.
Ar ôl cyrraedd India, fe wnaeth y Iarlles Powis hefyd greu gardd a chadw cofnod o'r planhigion yn ardal Mysore a'r rhanbarth Carnatic.
Mae dyddiaduron Iarlles Clive yn un o gofnodion ysgrifenedig cyntaf am yr India gan fenyw Prydeinig. Cawsant eu cyhoeddi o dan y teitl Birds of Passage. Maent yn garreg filltir bwysig yn natblygiad ysgrifennu teithio benywaidd.[5]
Bu farw Iarlles Powis yn Walcot Hall, Lydbury North ym 1830 yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion yn Eglwys y Plwyf, Bromfield. Goroesodd ei gŵr hi, bu ef farw ym 1839.[4]