Henry Brinley Richards | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Tachwedd 1819 ![]() Caerfyrddin ![]() |
Bu farw | 1 Mai 1885 ![]() Kensington, Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, athro cerdd, pianydd ![]() |
Cyflogwr |
Roedd Henry Brinley Richards (13 Tachwedd 1817[nb 1] - 2 Mai 1885) yn gyfansoddwr, pianydd ac yn athro cerdd Gymreig.[2]
Ganwyd Richards yng Nghaerfyrddin yn blentyn i Henry Richards, organydd eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin ac Elizabeth (née Brinley).[3]
Cafodd Brinley Richards addysg dda gan ei rieni yn ysgol ramadeg y dref gan obeithio iddo gael ei hyfforddi'n feddyg. Ar ôl gorffen yn yr ysgol cafodd ei osod fel prentis gyda meddyg yng Nghaerfyrddin.[4] Wedi dysgu canu'r piano a dechrau cyfansoddi'n ifanc dechreuodd Brinley chware'n gyhoeddus. Daeth i amlygrwydd fel cyfansoddwr addawol pan enillodd y wobr am gyfansoddi yn Eisteddfod Gwent a Morgannwg a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym 1834. Cyfres o amrywiadau i biano ar yr alaw "Llwyn Onn" oedd y darn buddugol.[5]
Daeth trobwynt ar yrfa Richards pan glywodd 4ydd Dug Newcastle-under-Lyne ef yn canu'r piano. Gwnaeth y fath argraff ar y Dug, nes peri iddo dalu am wersi piano i'r bachgen yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Rhoddodd y gorau i'w yrfa feddygol gan droi at addysg gerddorol am weddill ei oes. Enillodd Richards Ysgoloriaeth y Brenin yn yr Academi ddwywaith—y tro cyntaf ym 1834, ac eildro ym 1837. Wedi gorffen yn yr Academi Frenhinol aeth i Baris am hyfforddiant pellach. Yno, daeth yn gyfaill oes i'r pianydd a'r cyfansoddwr o Wlad Pwyl Frédéric Chopin[6]
Ar ddiwedd ei gyfnod dan hyfforddiant ym Mharis dychwelodd Richards i Lundain a'r Academi Frenhinol, lle fu'n gwasanaethu fel athro piano. Yn ddiweddarach bu'n gyfarwyddwr yr adran biano. Richards fu'n gyfrifol am gychwyn cyfundrefn arholiadau rhanbarthol yr academi, a bu'n hyrwyddo'r arholiadau gyda brwdfrydedd mawr yng Nghymru. Ym 1881 fe'i penodwyd yn arolygwr arholiadau'r Academi.
Yn ogystal â dysgu parhaodd Richards fel cyfansoddwr toreithiog a pherfformiwr rheolaidd ar lwyfannau ynysoedd Prydain a thrwy Ewrop gyfan. Er nad oedd yn Gymro Cymraeg roedd yn gefnogwr brwd i'r Eisteddfod a'r cyfleoedd roedd yn rhoi i gerddorion Cymreig i arddangos eu crefft. Gan nad oedd rheol iaith yn yr eisteddfodau'r adeg honno, bu galw mawr arno i feirniadu.
Ym 1862 enillodd Richards wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon am ysgrifennu alaw i gerdd Ceiriog Ar D'wysog Gwlad y Bryniau (sydd mwy adnabyddus dan enw ei chyfieithiad Saesneg gan George Lindley God Bless the Prince of Wales.) Cannwyd y gan am y tro cyntaf ym mhriodas Albert Edward, Tywysog Cymru a'r Dywysoges Alexandra o Ddenmarc.[7]
Un o ddiddordebau mawr Richards oedd cofnodi alwon werin draddodiadol Cymru. Cyhoeddodd gyfrol o'i gasgliad ym 1873 The Songs of Wales-Caneuon Cymru. Cafodd nifer o enwogion i ysgrifennu geiriau Cymraeg a Saesneg i'r alawon heb eiriau traddodiadol yn gysylltiedig â nhw gan gynnwys Syr Walter Scott, Felicia Hemans ac Alfred Perceval Graves yn Saesneg a Ceiriog, Ieuan Ddu[8], Mynyddog, a Tudno, yn y Gymraeg.[9]
Ym 1854 priododd Harriett Banting yn Kensington, Llundain cawsant fab a merch..
Bu farw yn ei gartref yn Llundain o lid ar yr ysgyfaint yn 67 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Brompton, Llundain.