Henry Ivatt | |
---|---|
Ganwyd | 16 Medi 1851 Wentworth |
Bu farw | 25 Hydref 1923 Haywards Heath |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Cyflogwr | |
Plant | George Ivatt |
Roedd Henry Alfred Ivatt yn beiriannydd rheilffordd Seisnig, ac yn Brif Beiriannydd i Rheilffordd y Great Northern rhwng 1896 a 1911.[1] Ganwyd Ivatt ar 16 Medi 1851 yn Wentworth, Swydd Gaergrawnt.[2] Addysgwyd yng Ngholeg Lerpwl.[3]
Pan oedd o’n 17 oed, prentiswyd Ivatt i John Ramsbottom yng Ngweithdy Cryw.[2] Roedd o’n daniwr dros gyfnod o 6 mis. Daeth o’n bennaeth o ddepo locomotifau Caergybi ym 1874 ac wedyn pennaeth o’r ardal Caer.
Symudodd i Iwerddon ym 1877, a gweithiodd dros Rheilffordd y Great Southern a Western yng Ngweithdy Inchicore. Daeth o’n beiriannydd yno ym 1882.
Dychwelodd i Loegr ym 1895 a daeth yn Orwchwilydd Locomotifau dros Reilffordd y Great Northern.[4] Cynlluniodd y locomotifau 4-4-2 cyntaf ym Mhrydain, ac roedd o’r un cyntaf i ddefnyddio Gêr falf Walschaerts ym Mhrydain.[3] Ymddeolwyd ar 2 Rhagfyr 1911.
Roedd gan Ivatt 6 o blant. Daeth un ohonynt, George Ivatt, yn beiriannydd locomotifau hefyd. Priododd ei ferch Marjorie Oliver Bulleid, prif beiriannydd y Rheilffordd Ddeheuol
Bu farw Ivatt yn Haywards Heath, Sussex ar 25 Hydref 1923.[2]