Henry Percy, Iarll 1af Northumberland | |
---|---|
Ganwyd | 10 Tachwedd 1341 Scarborough Castle |
Bu farw | 20 Chwefror 1408 o lladdwyd mewn brwydr Riding Gorllewinol Swydd Efrog |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | person milwrol |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Henry de Percy |
Mam | Mary of Lancaster |
Priod | Margaret Neville, Matilda de Lucy |
Plant | Henry 'Hotspur' Percy, Sir Ralph de Percy, Sir Thomas Percy, Margaret de Percy |
Llinach | teulu Percy |
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
Uchelwr Seisnig oedd Henry Percy, Iarll 1af Northumberland (10 Tachwedd,1341 - 20 Chwefror,1408). Roedd yn fab i Henry de Percy, 3ydd Barwn Percy.
Roedd Henry Percy yn wreiddiol yng ngwasanaeth Edward III, brenin Lloegr, yma bu'n cefnogi Rhisiart II, brenin Lloegr am gyfnod. Yn ddiweddarach, tres i gefnogi Henry Bolingbroke, a ddaeth yn frenin fel Harri IV.
Dan Harri IV, gwnaed ef yn Gwnstabl Lloegr ac yn arglwydd Ynys Manaw. Cafodd ef a'i fab, Henry 'Hotspur' Percy, y dasg o orchfygu gwrthryfel Owain Glyndŵr yng Nghymru, ond nid oedd eu hymdrechion yn bodloni'r brenin. Yn 1403, gwnaeth Hotsput a'i ewythr gytundeb ag Owain Glyn Dŵr, a gwrthryfela yn erbyn y brenin. Lladdwyd Hotspur yn Mrwydr Amwythig yr un flwyddyn. Nid oedd yr Iarll ei hun wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel, ond collodd ei swydd fel Cwnstabl. Yn 1405, cefnogodd Percy wrthryfel Richard le Scrope, Archesgob Efrog, a gwnaeth y Cytundeb Tridarn gydag Owain Glyn Dŵr. Ffôdd i'r Alban, gan ddychwelyd gyda byddin yn 1408, ond lladdwyd ef ym mrwydr Bramham Moor.[1]