Henry Richard

Henry Richard
Ganwyd3 Ebrill 1812 Edit this on Wikidata
Tregaron Edit this on Wikidata
Bu farw20 Awst 1888 Edit this on Wikidata
Treborth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gynradd Llangeitho
  • Coleg Highbury Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadEbenezer Richard Edit this on Wikidata
MamMary Richard Edit this on Wikidata
PriodMatilda Augusta Farley Edit this on Wikidata

Gweinidog yr Efengyl gyda'r Annibynwyr a gwleidydd o Gymru oedd y Parch. Henry Richard AS (3 Ebrill 181220 Awst 1888), a adwaenid yng Nghymru fel "Yr Apostl Heddwch." Ceisiodd esbonio'r Cymry i'r Saeson.[1]

Fe'i etholwyd yn AS Merthyr Tudful yn 1868 hyd at 1888.[2]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Henry Richard yn Nhregaron, Ceredigion yn 1812, yn fab i'r Parch. Ebenezer Richard (1781-1837), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd goleg yn Highbury, Llundain, lle graddiodd mewn diwynyddiaeth.

Yn 1835 etholwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yng Nghapel Marlborough yn Old Kent Road, Llundain; ef oedd yr ail weinidog ers agor y capel yn 1826, ac aeth ati ar unwaith i ddileu dyledion adeiladu'r capel. Gwnaeth hynny'n llwyddiannus a chododd ddigon o arian i agor ysgol hefyd: y British School, Oakley Place.

Roedd yn ffigwr blaenllaw yn rhengoedd y Rhyddfrydwyr Cymreig ac yn gyfaill i'r diwygiwr radicalaidd Seisnig Richard Cobden. Yn 1868 etholwyd ef yn Aelod Seneddol Merthyr Tudful o 1868 hyd 1888. Cofir Henry Richard yn bennaf fel hyrwyddwr achos heddwch a chyd-ddealltwriaeth ryngwladol ac fel ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch am ddeugain mlynedd (1848-84). Cyfranodd yn fawr at y mudiad yn erbyn caethwasaeth ac achosion eraill hefyd.

Cyhoeddodd nifer o bamffledi a thraethodau, yn Gymraeg a Saesneg, ar bynciau mawr ei gyfnod, yn cynnwys Addysg yng Nghymru, safle'r iaith Gymraeg, Diwygio'r Tir, a Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.

Bu farw ar ei ymweliad ag Arglwydd Raglaw Môn yn Nhreborth, Bangor ar 21 Awst 1888 a cheir dwy gofeb iddo: y naill yn ei dref enedigol, Tregaron, a'r llall yw ei fedd ym Mynwent Abney Park, Llundain, lle ceir darlun ohono mewn carreg.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau (detholiad)

[golygu | golygu cod]
  • Bywyd y Parch. Ebenezer Richard (1839) bywgraffiad o'i dad. Awdur ar y cyd a'i frawd y Parch Edward W Richard
  • Defensive War (1846, 1890),
  • The Recent Progress of International Arbitration (1884)
  • Memoirs of Joseph Sturge (1864)
  • Letters on the Social and Political Condition of Wales (1866, 1884)

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "RICHARD, HENRY (1812 - 1888), gwleidyddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-04-23.
  2. "Richard, Henry (1812–1888), politician". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/23527. Cyrchwyd 2024-04-23.
  3. Roberts, Eleazar (1902). Bywyd a Gwaith Henry Richard AS . Wrecsam: Hughes a'i Fab,.CS1 maint: extra punctuation (link)
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Austin Bruce
Aelod Seneddol dros Bwrdeistref Merthyr Tudful
18681888
Olynydd:
William Pritchard Morgan