Henry Thomas | |
---|---|
Ganwyd | Henry Jackson Thomas 9 Medi 1971 San Antonio |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cerddor, actor teledu, actor ffilm, gitarydd, actor llais |
Adnabyddus am | E.T. the Extra-Terrestrial |
Priod | Marie Zielcke |
Actor a cherddor Americanaidd yw Henry Jackson Thomas Jr. (ganwyd 9 Medi 1971). Ei ran fawr cyntaf oedd Elliott yn ffilm Steven Spielberg - E.T. the Extra-Terrestrial.
Ganwyd Thomas yn San Antonio, Texas. Mae ei fam, Carolyn L. (née Davies), yn wraig tŷ a roedd ei dad, Henry Jackson Thomas, yn beiriannwr hydrolig.[1] Mynychodd Ysgol Uwchradd East Central a Choleg Blinn.
Mae teulu ei fam yn hannu o ogledd Cymru a teulu ei dad o Sir Gaerfyrddin. Mae'n cefnogi tîm pêl-droed Abertawe ac wedi dysgu ychydig o Gymraeg pan yn ymweld a Chymru.[2]
Dywedodd Thomas ei fod wedi penderfynu bod yn actor yn wyth oed, ar ôl gwylio rhaglen arbennig am actio ar PBS a sylweddolodd ei fod eisiau dilyn gyrfa yn y maes. Yn dilyn clyweliad agored mewn gwesty yn San Antonio enillodd ran yn ei ffilm gyntaf, Raggedy Man (1981). Yn naw oed, aeth Thomas am glyweliad am y brif rhan yn E.T. the Extra-Terrestrial (1982). Enillodd y rhan drwy roi perfformiad ddagreuol, gan dynnu ar atgof go-iawn o weld ei gi anwes yn cael ei ladd gan gi cymydog. Roedd llwyddiant y ffilm yn fwy na'r disgwyl, a roedd Thomas yn poeni am ymateb eithafol rhai aelodau'r cyhoedd.[3]
Serennodd Thomas ynCloak & Dagger, tra'n mynychu'r ysgol. Dychwelodd i ffilm yn y 1980au hwyr a'r 1990au cynnar gan ddechrau profi ei hun mewn rhannau oedolion, yn fwyaf nodedig fel fersiwn iau o Norman Bates yn Psycho IV: The Beginning, y cymeriad chwaraeodd Anthony Perkins yn wreiddiol.[4] Aeth Thomas i Goleg Blinn (ble astudiodd athroniaeth a hanes) ond gadawodd ar ôl blwyddyn i actio yn llawn amser.
Ei ran oedolyn mwyaf amlwg mor belled oedd fel Samuel Ludlow yn Legends of the Fall (1994). Chwaraeodd Johnny Sirocco yn ffilm hanesyddol Martin Scorsese, Gangs of New York (2002). Chwaraeodd Hank Williams Sr. yn The Last Ride (2011). Yn y gyfres ABC Betrayal, mae'n chwarae T. J. Karsten. Bu hefyd yn chwarae Tom, tad cymeriad Carla Gugino, yn ffilm wreiddiol Netflix Gerald's Game (2017).
Roedd Thomas yn ysgrifennu caneuon, canu, a chwarae gitâr ar gyfer y band o San Antonio, Texas, The Blue Heelers (a enwyd ar ôl y brîd ci) o ganol i ddiwedd y 1990au. Er na arwyddodd y band i label recordio, cafodd ei albwm hunan-gynhyrchiedig Twister dderbyniad da a cael ei chwarae ar radio drwy'r taleithiau.[angen ffynhonnell] Symudodd i Los Angeles yn 1998, a daeth y band i ben, ond parhaodd Thomas i ysgrifennu a recordio caneuon. Ym 1998, ymddangosodd ei gân "Truckstop Coffi" (a recordiwyd gyda'r Blue Heelers) ar drac sain V2 i'r ffilm Niagara, Niagara, lle ymddangosodd Thomas hefyd.[5]
Yn 2003, Thomas gweithiodd gyda Nikki Sudden ar y gerddoriaeth ar gyfer ffilm Mika Kaurismäki Honey Baby, a oedd yn cynnwys pedwar cân gwreiddiol a ysgrifennwyd ac a berfformiwyd gan Thomas fel y ffug gerddor Tom Brackett.[6] Roedd albwm ar y gweill, ond bu farw Sudden o drawiad ar y galon yn 2006.[7]
Blwyddyn | Teitl | Rhan |
---|---|---|
1981 | Raggedy Man | Harry Jr. |
1982 | E.T. the Extra-Terrestrial | Elliott |
1984 | Misunderstood | Andrew |
1984 | Cloak & Dagger | Davey Osborne |
1986 | Frog Dreaming | Cody |
1989 | Valmont | Raphael Danceny |
1993 | Fire in the Sky | Greg Hayes |
1994 | Curse of the Starving Class | Wesley Tate |
1994 | Legends of the Fall | Samuel Ludlow |
1997 | Bombshell | Buck Hogan |
1997 | Niagara, Niagara | Seth |
1997 | Suicide Kings | Avery Chasten |
1999 | Fever | Nick Parker |
2000 | A Good Baby | Raymond Toker |
2000 | All the Pretty Horses | Lacey Rawlins |
2001 | The Quickie | Alex |
2002 | Dead in the Water | Jeff |
2002 | I'm with Lucy | Barry |
2002 | Gangs of New York | Johnny Sirocco |
2003 | I Capture the Castle | Simon Cotton |
2003 | 11:14 | Jack |
2004 | Dead Birds | William |
2006 | The Hard Easy | Paul Weston |
2007 | The Last Sin Eater | Man of God |
2007 | Suffering Man's Charity | Eric Rykell |
2008 | Red Velvet | Aaron |
2010 | Dear John | Tim |
2013 | Big Sur | Philip Whalen |
2016 | Ouija: Origin of Evil | Father Tom Hogan |
2017 | Gerald's Game | Tom |
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1990 | Psycho IV: The Beginning | Norman Bates Ifanc |
Ffilm deledu |
1992 | A Taste for Killing | Cary Sloan | Ffilm deledu |
1995 | Indictment: The McMartin Trial | Ray Buckey | Ffilm deledu |
1996 | Riders of the Purple Sage | Bern Venters | Ffilm deledu |
1998 | Moby Dick | Ishmael | Ffilm deledu |
1999 | Happy Face Murders | Dylan McCarthy | Ffilm deledu |
2005 | Masters of Horror | Jamie | Pennod: "Chocolate" |
2006 | Desperation | Peter Jackson | Ffilm deledu |
2007–2008 | Without a Trace | Franklin Romar | 2 bennod |
2009 | CSI: Crime Scene Investigation | Jeremy Kent | Pennod: "If I Had a Hammer" |
2011 | The Mentalist | Thomas Lisbon | Pennod: "Where in the World is Carmine O'Brien?" |
2013–14 | Betrayal | T.J. Karsten | 13 pennod |
2015 | Sons of Liberty | John Adams | Cyfres fer |
2016 | Law & Order: Special Victims Unit | Sean Roberts | Pennod: "Making a Rapist" |
2017 | Better Things | Robin | Cyfres 2 |
2018 | The Haunting of Hill House |
Blwyddyn | Gwobrau |
Categori | Gwaith | Canlyniad |
---|---|---|---|---|
1982 | Gwobr Artist Ifanc | Yr Actor Gorau | Raggedy Man
|
Enwebwyd |
1983 | Gwobr Artist Ifanc | Yr Actor Gorau | E.T. the Extra-Terrestrial | Buddugol |
Gwobrau Ffilm Yr Academi Brydeinig |
Newydd-ddyfodiad Mwyaf Addawol i Prif Rhan Ffilm |
Enwebwyd | ||
Gwobrau'r Golden Globe | Yr Actor Gorau | Enwebwyd | ||
Gwobr Saturn |
Yr Actor Gorau | Enwebwyd | ||
1985 | Gwobr Artist Ifanc | Yr Actor Gorau | Cloak & Dagger
|
Enwebwyd |
1996 | Gwobrau'r Golden Globe | Actor cefnogol gorau - Cyfres, Cyfres fer neu Ffilm Deledu | Indictment: The McMartin Trial
|
Enwebwyd |