Hervey le Breton | |
---|---|
Bu farw | 30 Awst 1131 |
Dinasyddiaeth | Dugaeth Llydaw |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Swydd | Roman Catholic Bishop of Ely, Esgob Catholig Bangor |
Roedd Hervey le Breton (neu Hervé le Breton) (bu farw 30 Awst 1131) yn gleriger o Lydaw fu'n Esgob Bangor ac yn ddiweddarach yn Esgob Ely.
Credir i Hervey fod yn gaplan i William II, brenin Lloegr, ac apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1092 . Ar y pryd roedd y rhan fwyaf o Deyrnas Gwynedd yn nwylo'r Normaniaid, ac mae'n debyg i apwyntiad Hervey fod wedi ei fwriadu i gryfhau eu gafael ar Wynedd. Cysegrwyd ef yn Esgob Bangor gan Archesgob Efrog, gan fod swydd Archesgob Caergaint yn wag ar y pryd.
Ymddengys fod y berthynas rhwng Hervey a'r Cymry yn ei esgobaeth yn ddrwg iawn, a dywedir ei fod yn cadw gwarchodlu arfog i'w amddiffyn ei hun. Yn 1094 dechreuodd gwrthryfel Cymreig yn erbyn y Normaniaid, dan arweiniad Gruffudd ap Cynan, ac erbyn diwedd y 1090au roedd Hervey wedi gorfod ffoi o'i esgobaeth, Bu cryn dipyn o lythyru rhwng brenin Lloegr, Archesgob Caergaint a'r pab ynglŷn â chael esgobaeth arall iddo. Parhaodd yn Esgob Bangor mewn enw hyd 1109, pan wnaed ef yn Esgob Ely.
Bu Esgobaeth Bangor yn wag hyd 1120, pan lwyddodd Gruffudd ap Cynan i sicrhau penodiad Dafydd y Sgotyn.