Hiclys Erch Anastrepta orcadensis | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Anastrepta |
Rhywogaeth: | A. orcadensis |
Enw deuenwol | |
Anastrepta orcadensis |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Hiclys Erch (enw gwyddonol: Anastrepta orcadensis; enw Saesneg: Orkney notchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae'r gair erch yma'n cyfeirio at yr ynys lle'i ceir: Ynysoedd Erch, yr Alban. Fe'i ceir hefyd yn unol Daleithiau America, canada ac gwledydd eraill o fewn Ewrop.[1][2]
Mae'r rhywogaeth hon i’w chanfod ar arfordir gorllewinol Cymru.
Darganfuwyd yr Hiclys erch am y tro cyntaf, ar "Ward Hill", Ynys Hoy, ail ynys fwyaf yr Ynysoedd Erch, ar arfordir gorllewinol yr Alban, a hynny gan Hooker ym 1808.[3][4] Fe'i ceir yn gyffredin o fewn carped o blanhigion tebyg: lysiau'r afu eraill a grug, fel rheol a hynny ar lethrau, lloriau coetiroedd ac ar lethrau caregog yn Ucheldiroedd yr Alban.[5]
Yn Alaska, ceir sawl lleoliad ger arfordiroedd ynysoedd cysgodol, fel arfer ar uchder o 300 metr (1500 tr) neu uwch.[6]
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[7] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.