![]() | |
Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Beda ![]() |
Iaith | Lladin yr Oesoedd Canol ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 731 ![]() |
Genre | church history, cronicl ![]() |
Ysgrifennwyd yr Historia Ecclesiastica Gentis Anglorum (sef "Hanes eglwysig cenedl y Saeson") yn yr iaith Ladin gan yr hanesydd a mynach o Sais Beda, efallai yn negawdau cyntaf yr 8g.
Mae'r llyfr yn llawn o ffeithiau am hanes cynnar Lloegr yn y cyfnod pan ymledai'r teyrnasoedd Eingl-Seisnig gan wrthdaro â'r teyrnasoedd Brythonaidd, sef terynasoedd yr Hen Ogledd, Cernyw, Dyfnaint a Chymru. Ond er ei fod yn hanes yr eglwys yn Lloegr (cangen o eglwys Rufain), ei brif bwnc mewn gwirionedd yw'r gwrthdaro rhwng yr eglwys honno a'r eglwysi Celtaidd annibynnol oedd yn heresiaid yn ôl ei awdur.