Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | Democratiaeth Islamaidd, Ceidwadaeth, rhyddfrydiaeth economaidd |
Rhan o | Clymblaid 18 Hydref dros Hawl a Rhyddid, Troika |
Dechrau/Sefydlu | 14 Ionawr 2011 |
Sylfaenydd | Rached Ghannouchi, Hmida Ennaifer, Abdelfattah Mourou |
Pencadlys | Tiwnisia |
Gwladwriaeth | Tiwnisia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Plaid wleidyddol Islamig yn Nhiwnisia yw Hizb al-Nahda neu Hizb Ennahda (Arabeg النهضة "Plaid y Dadeni"; Ffrangeg, Parti de la Renaissance). Ei llywydd presennol yw Rached Ghannouchi. Er mai al-Nahda yw'r enw Arabeg safonol, cyfeirir ati yn Nhiwnisia wrth y ffurf Arabeg llafar Tiwnisaidd, sef En-Nadha (Ennadha) neu "Nahda".
Cafodd y blaid ei sefydlu yn wreiddiol dan yr enw Action islamique, wedyn newidiodd ei henw i Fudiad y Tuedd Islamig, ac wedyn yn 1989 i Hizb al-Nahda.[1] Er iddynt ar y dechrau arddel syniadau Sayyid Qutb a Maududi, o'r 1980au ymlaen dechreuasant eu disgrifio eu hunain fel "plaid Islamig gymhedrol". Dywedant eu bod o blaid democratiaeth a ffurf "Diwnisaidd" ar Islamiaeth a fyddai'n cydnabod lluosogaeth wleidyddol. Galwant hefyd am drafod gyda'r Gorllewin. Fodd bynnag, maent yn gwrthod syniadau arferol y Gorllewin am natur democratiaeth ryddfrydig ac am weld cyfansoddiad gwaelodol Islamaidd yn lle'r un seciwlar presennol yn Nhiwnisia. Mae rhai wedi cyhuddo un o'i phrif arweinwyr, Rashid Al-Ghannushi, o fod a hanes o gefnogi trais, ac eto y prif gyhuddiad yn ei erbyn gan llywodraeth Tiwnisia oedd trefnu plaid wleidyddol anghyfreithlon.
Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, Al-Fajr. Cafodd golygydd Al Fajr, Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn 1992 am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio trais gyda'r bwriad o newid natur y wladwriaeth." Caniatawyd i aelodau o en-Nahda sefyll yn etholiadau 1989 ond cafodd y mudiad ei wahardd yn llwyr yn 1991. Credir fod yr orsaf teledu Arabeg El Zeitouna yn gysylltiedig ag al-Nahda.
Cafodd canoedd o aelodau a chefnogwyr y blaid eu harestio a charcharu. Ar 27 Chwefror 2006, fel rhan o amnesti cyffredinol i garcharorion gwleidyddol, rhyddhawyd nifer o'r carcharorion hyn ar orchymyn Zine Abedine Ben Ali, Arlywydd Tiwnisia.[2]
Yn dilyn Chwyldro Tiwnisia, dychwelodd Ghannouchi o alltudiaeth dramor a daeth en-Nahda yn rym pwysig yng ngwleidyddiaeth y wlad. Yn wyneb natur ranedig y pleidiau seciwlar niferus, enillodd en-Nahda yr etholiad cyntaf i'w gynnal ar ôl cwymp Ben Ali a ffurfiodd lywodraeth leiafrifol. Cafwyd cyfnod helbulus gyda streiciau a phrotestiadau gan y Chwith seciwlar a'r undebau llafur yn erbyn polisiau islamaidd ceidwadol en-Nahda.