Hugh Bellot | |
---|---|
Ganwyd | 1542 |
Bu farw | 1596 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Esgob Caer |
Clerigwr a fu'n Esgob Bangor ac yna yn Esgob Caer oedd Hugh Bellot (1542 – 13 Mehefin 1596).[1]
Graddiodd o Goleg Crist, Caergrawnt yn 1564. Yn 1567 daeth yn gymrawd o Goleg yr Iesu, Caergrawnt. Daeth yn Esgob Bangor yn 1585. Dywedir iddo gynorthwyo William Morgan gyda'i gyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg. Daeth yn Esgob Caer yn 1595. Bu farw yn y Bers .