Hugh Dennis | |
---|---|
Ganwyd | Peter Hugh Dennis 13 Chwefror 1962 Kettering |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor teledu, llenor |
Cysylltir gyda | Outnumbered |
Tad | John Dennis |
Mae Peter Hugh Dennis (ganed 13 Chwefror 1962) yn gomedïwr, actor, ysgrifennwr, dynwaredwr a throsleisydd o Loegr. Fe'i adnabyddir fel un hanner y ddeuawd gomedi Punt and Dennis gyda'i bartner comedi Steve Punt, a fel Pete Brockman, y tad yn y comedi sefyllfa BBC One Outnumbered. Ers 2005, mae Dennis wedi bod yn banelydd rheolaidd ar y rhaglen gomedi dychanol BBC Two Mock the Week.
Ganwyd Dennis yn Kettering, Swydd Northampton,[1] yn fab i'r athrawes Dorothy M. Dennis (yn gynt, Hinnels) a John Dennis.[2] Mae ganddo un brawd, hefyd o'r enw John, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel Llysgennad Prydain i Angola.[2] Yn fuan ar ôl genediaeth Dennis, symudodd y teulu i Mill Hill yng Ngogledd Llundain wedi apwyntiad ei dad fel offeiriad mewn plwyf yn yr ardal. Aeth ei dad yn ei flaen i ddod yn Esgob Knaresborough, ac wedyn Saint Edmundsbury ac Ipsiwch.[3] Addysgwyd Dennis yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Yn ystod ei amser yno, chwaraeoedd rygbi gyda'r comedïwr Will Self, ac roedd yn brif bachgen yn ei flwyddyn derfynol.[4]