Hyfforddiant gyda phwysau

Gellir cwblhau sesiwn ymarfer llawn gyda phâr o ddymbelau cymwysadwy a set o blatiau pwysau.

Math cyffredin o hyfforddi cryfder er mwyn datblygu cryfder a maint chyhyrau ysgerbydol ydy hyfforddiant gyda phwysau. Defnyddia grym disgyrchiant (ar ffurf bariau gyda phwysau arnynt, dymbelau neu staciau o bwysau) i wrthwynebu'r grym a greir gan y cyhyr drwy gyfangiad echreiddig. Defnyddia hyfforddiant gyda phwysau amrywiaeth o offer arbenigol er mwyn targedu grŵpiau penodol o gyhyrau a mathau o symudiadau.

Amrywia hyfforddi gyda phwysau o gorfflunio, codi pwysau Olympaidd a chodi pŵer.